GRIFFITH, GRIFFITH WYNNE (1883 - 1967), gweinidog (MC) ac awdur

Enw: Griffith Wynne Griffith
Dyddiad geni: 1883
Dyddiad marw: 1967
Priod: Grace Wynne Griffith (née Roberts)
Plentyn: Elizabeth Grace Hunter (née Griffith)
Plentyn: Douglas Griffith
Plentyn: Gwilym Wynne Griffith
Plentyn: Huw Wynne Griffith
Rhiant: Judith Griffith
Rhiant: John Griffith
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: gweinidog (MC) ac awdur
Maes gweithgaredd: Crefydd; Llenyddiaeth ac Ysgrifennu
Awdur: Gomer Morgan Roberts

Ganed 4 Chwefror 1883 ym Mrynteci, Llandyfrydog, Môn, mab John a Judith Griffith. Bu'n gweithio ar fferm ei dad pan oedd yn ieuanc, ond yn ddeunaw oed aeth i ysgol Cynffig Davies ym Mhorthaethwy, a'i wyneb ar y weinidogaeth. Derbyniwyd ef yn bregethwr gan gwrdd misol Môn yn 1903. Addysgwyd ef yng Ngholeg y Brifysgol, Bangor (lle graddiodd mewn athroniaeth), ac yng ngholeg diwinyddol y Bala (lle graddiodd mewn diwinyddiaeth). Bu hefyd am dymor (1909) yng Ngholeg Iesu, Rhydychen. Ordeiniwyd ef yn 1911, a bu'n gweinidogaethu ym Mryn-du, Môn (1910-13), Douglas Road, Lerpwl (1913-23), Y Tabernacl, Porthmadog (1923-29), a'r Tabernacl, Bangor (1929-46). Priododd, 1914, Grace Roberts o'r Dwyran, Môn; ganwyd iddynt dri fab ac un ferch. Wedi ymddeol bu'n byw yn Llanfair Pwllgwyngyll. Bu farw 2 Chwefror 1967 yng nghartref ei fab, Huw Wynne Griffith , gweinidog (MC), Aberystwyth, a chladdwyd ei weddillion ym mynwent capel y Dwyran, Môn.

Yr oedd yn bregethwr coeth a grymus yn ei ddydd, a datblygodd yn un o arweinyddion ei Gyfundeb. Bu'n llywydd Sasiwn y Gogledd (1952), ac yn llywydd y Gymanfa Gyffredinol (1959). Traddododd y Ddarlith Davies yn 1942, a gyhoeddwyd dan y teitl Datguddiad a datblygiad (1946). Ef oedd prif olygydd Y Cyfarwyddwr (1929-30), a bu'n un o isolygyddion yr un cylchgrawn, 1931-44. Bu hefyd yn olygydd Y Goleuad (1949-57). Ef oedd ysgrifennydd y pwyllgor a baratôdd ' Y Gyffes Fer ', a'r Llyfr gwasanaeth (1958). Bu'n aelod o bwyllgor y cyfieithiad newydd o'r Beibl, cyngor a llys Coleg y Brifysgol, Bangor. Cyfrannodd ysgrifau i'r Geiriadur Beiblaidd (1926), ac i'r Bywgraffiadur Yr oedd ynddo anian llenor, a chyhoeddodd ddwy nofel, sef Helynt Coed y Gell (1928) a Helynt Ynys Gain (1939). Cyhoeddodd nifer o lyfrau eraill: Paul y cenhadwr (1925), Rhai o gymeriadau'r Hen Destament (1927), Y Groes (1943), The wonderful life (1941), cyfrol o bregethau, Ffynnon Bethlehem (1948), a Cofiant cenhades (Helen Rowlands) (1961). Yn ei flynyddoedd olaf cyfansoddodd a throsodd gryn lawer o emynau - cyhoeddodd gasgliad ohonynt dan y teitl Odlau'r Efengyl (1959). Ymddangosodd penodau o'i atgofion yn Y Goleuad, ac ym mlwyddyn ei farwolaeth cyhoeddwyd y rheini dan y teitl Cofio'r blynyddoedd. Rhwng popeth a'i gilydd bu'n rhyfeddol o brysur, a cheid graen bob amser ar ei gynhyrchion fel pregethwr ac awdur.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1997

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.