GRIFFITH, GRACE WYNNE (1888 - 1963), nofelydd

Enw: Grace Wynne Griffith
Dyddiad geni: 1888
Dyddiad marw: 1963
Priod: Griffith Wynne Griffith
Plentyn: Elizabeth Grace Hunter (née Griffith)
Plentyn: Douglas Griffith
Plentyn: Gwilym Wynne Griffith
Plentyn: Huw Wynne Griffith
Rhiant: W.G. Roberts
Rhyw: Benyw
Galwedigaeth: nofelydd
Maes gweithgaredd: Llenyddiaeth ac Ysgrifennu
Awdur: Gomer Morgan Roberts

Ganed yn Chwefror 1888 yn Niwbwrch, Môn, merch y Capten W.G. Roberts. Chwaer iddi oedd Elizabeth Ann Williams, awdur Hanes Môn yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg (1927). Addysgwyd hi yn ysgol sir Caernarfon. Bu'n nyrsio yn Lerpwl ym mlynyddoedd cynnar yr 20fed ganrif, ac yno y cyfarfu â Griffith Wynne Griffith, Lerpwl; priodwyd hwy yn 1914. Bu farw 1 Mai 1963.

Daeth i amlygrwydd yn 1934 pan ddaeth yn gydradd â Kate Roberts yn Eisteddfod Genedlaethol Castell-nedd yng nghystadleuaeth y nofel. Cyhoeddwyd ei nofel yn 1935 dan y teitl Creigiau Milgwyn; nofel Kate Roberts oedd Traed mewn cyffion. Adolygwyd Creigiau Milgwyn gan yr Athro T.J. Morgan; darniwyd y nofel yn drwyadl a chondemniwyd y beirniad (Dr. Tom Richards) yn chwyrn am ei gwobrwyo.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1997

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.