Ganwyd yn 1872 yn Oslo, Norwy. Tuag 1898 daeth i Lundain i ddilyn ei grefft fel rhwymwr llyfrau gyda J. Zaehnsdorf yn Shaftesbury Avenue. Ymhen tair blynedd symudodd at gwmni enwog Riviere yn Regent Street lle y treuliodd ddeng mlynedd yn gloywi ei ddawn a'i brofiad ym maes atgyweirio llyfrau prin a llawysgrifau. Yn ystod y cyfnod hwn priododd Edith Gwynne (1871 - 1950), a chawsant bedwar o blant. Yn niwedd 1911, allan o dri ymgeisydd profiadol, fe'i penodwyd ef i drwsio ac ailrwymo yn arbennig gasgliadau Peniarth a Llansteffan o lawysgrifau a llyfrau prin a gyflwynwyd gan Sir John Williams yn sail i'r Llyfrgell Genedlaethol newydd. Gan mor frau oedd llawer ohonynt, datblygodd Hanson ddull chwyldroadol o hollti tudalen o bapur a wnaed â llaw, a'i chyfannu drwy bastio'r ddau hanner trwch wrth dudalen o bapur glân. Felly yr achubodd ef (a chydag amser ei staff hefyd), filoedd lawer o lawysgrifau a llyfrau prin a gwerthfawr fel y gallai ysgolheigion ymchwil eu trafod heb eu niweidio ymhellach, a thrwy hynny gwelwyd cyhoeddi cyfresi o destunau llenyddol cyflawn a safonol a fu'n anhepgor i ddatblygiad ysgolheictod Cymraeg diweddar. Cydnabu Prifysgol Cymru ei gyfraniad unigryw yn 1955 pan gyflwynwyd iddo radd M.A. er anrhydedd
O ddyddiau'i lencyndod yn Llundain bu Hanson yn undebwr llafur brwd ac o fewn llai na blwyddyn wedi iddo gyrraedd Aberystwyth fe'i hetholwyd yn is-gadeirydd Cyngor Undebau Llafur Gogledd Ceredigion y bu'n gymorth i'w sefydlu. Ar ddiwedd Rhyfel Byd I ffurfiodd ef a'i gyfeillion gangen leol o'r Blaid Lafur, ac agor y siop fwyd gyntaf o dan nawdd y Mudiad Cydweithredol yn y dref. Cychwynnodd yn y Llyfrgell Genedlaethol ar 1 Ionawr 1912 a daliodd ati i weithio tan 30 Mehefin 1959 ac yntau'n 87 oed! Bu farw 26 Medi 1961 a chladdwyd ef ym mynwent Eglwys Llangorwen, Clarach.
Dyddiad cyhoeddi: 1997
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.