Ganwyd 4 Chwefror 1873, yn fab i R. Williams, Caernarfon. Addysgwyd ef yn ysgol Friars, Bangor, Coleg y Brifysgol, Bangor, a Phrifysgol Greifswald. Cymerodd radd Prifysgol Llundain yn y clasuron, Ffrangeg a Chelteg yn 1894, a D.Lit. yr un brifysgol yn 1911. Penodwyd ef yn ddarlithydd cynorthwyol mewn Ffrangeg ac Almaeneg yng Ngholeg y Brifysgol, Bangor, yn 1896, ac yn y clasuron yn 1900. Yn 1904 penodwyd ef yn Athro Groeg, a bu yn y swydd nes ymddeol yn 1940.
Profir ei ddiddordeb yn yr ieithoedd Celtaidd gan erthygl yn Zeitschrift für celtische Philologie, 1898, ' Cairdius Aenias ocus Didaine (The love of Aeneas and Dido) ', testun Gwyddelig o lawysgrif Ballymote, gyda chyfieithiad a geirfa. Ar ôl ymroi i'r iaith Roeg cyhoeddodd The Elegies of Theognis (1910), ac Early Greek elegy (1926), ac yn Gymraeg Groeg y Testament Newydd (1927) a Y Groegiaid gynt (1932). Yr oedd ei wybodaeth o bynciau ieithyddol yn eang, fel y dengys dau lyfr arall o'i waith, sef A short introduction to the study of comparative grammar (1935) a A short grammar of Old Persian (1936). Ar ôl ymddeol aeth ati i ddysgu Rwseg, a chyfieithodd nifer o glasuron yr iaith honno i'r Gymraeg, ac yn eu mysg Storïau o'r Rwseg (1942), Carcharor y Cawcasws, Tolstoi (1943), Cerddi o'r Rwseg (1945), Merch y capten, Pwshcin (1947). Cyhoeddwyd dau gyfieithiad arall ar ôl ei farw: Pedair drama fer o'r Rwseg (1964) a Y tadau a'r plant, Twrgenieff (1964). Cyhoeddodd nifer helaeth iawn o ysgrifau ar lenyddiaethau tramor a chyfieithiadau mewn pob math o gylchgronau a newyddiaduron yng Nghymru. Ceir rhestr o'i weithiau yn Jnl. W.B.S., 9, 211-8.
Priododd yn 1905 Gwladys, merch W. Prichard Williams, a bu iddynt ferch a dau fab. Bu farw 12 Ebrill 1961.
Dyddiad cyhoeddi: 1997
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.