HUGHES, HYWEL STANFORD (1886 - 1970), ranshwr, cymwynaswr a chenedlaetholwr

Enw: Hywel Stanford Hughes
Dyddiad geni: 1886
Dyddiad marw: 1970
Priod: Olwen Margaret Hughes (née Williams)
Rhiant: Elizabeth Hughes (née ?Jones)
Rhiant: Owen Hughes
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: ranshwr, cymwynaswr a chenedlaetholwr
Maes gweithgaredd: Natur ac Amaethyddiaeth; Gwladgarwyr; Dyngarwch; Gwleidyddiaeth a Mudiadau Gwleidyddol
Awdur: Gwilym Arthur Jones

Ganwyd 24 Ebrill 1886, yn yr Wyddgrug, Fflint, plentyn ieuangaf ac unig fab Owen Hughes, gweinidog (EF), a'i wraig, Elizabeth. Daeth ei chwiorydd yn flaenllaw ym mudiad y swffragetiaid, yn arbennig Vyrnwy a fu'n amlwg fel newyddiadurwraig a cholofnydd i'r Daily Mail dan yr enw Anne Temple. Bu hi fel ei chwiorydd, Morfudd a Blodwen, yn gyfeillgar â Mrs. Pankhurst. Cyfnither iddynt oedd Sarah Pugh Jones, hanesydd lleol adnabyddus a llyfrgellydd tref Llangollen. Addysgwyd Hywel yn ysgolion Grove Park, Wrecsam, a Kingswood, Caerfaddon, sefydliad Wesleaidd. Wedi gadael yr ysgol bu'n brentis i filfeddyg yn Llangollen, nes hwylio, yn 1907, am Bogota, Colombia, i ymuno â dau ewythr, Ifor ac R.J. Jones, a oedd yn y fasnach mewnforio. Dangosodd Hywel graffter masnachol anghyffredin ac ym mhen amser daeth yn berchennog 27,000 erw o dir yn rhanbarth Honda i'w datblygu'n fagwrfa anifeiliaid. Estynnodd ei ddiddordeb i faes allforio coffi a sefydlodd swyddfeydd yn Efrog Newydd a mannau eraill, ond pan ddaeth y dirwasgiad economaidd byd-eang yn 1929-33 chwalwyd ei deyrnas. Byddai dynion gwannach wedi anobeithio am adferiad, ond drwy benderfyniad unigryw, arweinyddiaeth brofedig, a gallu trefniadol tu hwnt i'r cyffredin, lledodd ei ddiddordebau i feysydd peiriannau amaethyddol, olew, a magu gwartheg. Er iddo ef gefnu ar allforio coffi parhaodd llawer o'i gynweithwyr i ddal swyddi allweddol ym masnach goffi Colombia. Llwyddodd ef i wella a datblygu dulliau magu anifeiliaid ac ychwanegwyd ail ransh, Poponte, at ei eiddo cynyddol.

Yn 1924, priododd Olwen Margaret Williams yng nghapel Mile End, Llundain, a Thomas Charles Williams yn gweinyddu. Ganwyd hi yn Llundain yn ferch i Owen Williams, Gwalchmai, Môn, dilledydd llwyddiannus yn Llundain a fu'n uchel siryf y sir. Yr oedd hi'n nith i Syr Vincent Evans, Parhaodd eu plant i ffermio yn Colombia. Ni cheisiodd Hywel Hughes ddinasyddiaeth y wlad honno, ond dewis bob amser bwysleisio'i genedligrwydd Cymreig. Yr oedd yn aelod brwdfrydig o Blaid Cymru ac yn gymwynaswr hael iddi. Bu'n gefnogol i Urdd Gobaith Cymru a chaniataodd iddi gynnal ei gwersyll cyntaf yn 1929 ar barc Plas Tŷ'n-dŵr, ei gartref ger Llangollen. Yn 1931 daeth yn llywydd gwersylloedd yr Urdd ac yn 1932 etholwyd ef yn is-lywydd y Cwmni. Yr oedd yn aelod o Anrhydeddus Gymdeithas y Cymmrodorion, ac yn Eisteddfod Genedlaethol Glyn Ebwy ef oedd arweinydd y Cymry ar wasgar. Yr oedd yn is-lywydd cymanfa ganu America yng Nghaerdydd yn 1969. Cydnabu Gorsedd y Beirdd ei gymwynasau a'i deyrngarwch i Gymru drwy ei dderbyn i Urdd Derwydd fel ' Don Hywel '. Oherwydd ei bersonoliaeth, ei rwyddineb mewn Sbaeneg, a'i enw da diamheuol daeth i gyswllt â nifer o lywyddion a seneddwyr blaenllaw Colombia.

Yn 1955 prynodd Drws-y-coed, Porthaethwy, Môn, a daeth y plas yn ganolfan ddiwylliannol a chymdeithasol boblogaidd i Gymry o bob cwr o'r wlad ac o'r tu allan iddi. Edmygai'n fawr fywyd a gwaith Syr O.M. Edwards. Ymlynai wrth ei ffydd Gristionogol ac ni adawodd heibio'i egwyddorion anghydffurfiol. Gellir crynhoi ei ddyheadau fel hyn: codi safon bridio anifeiliaid yn gyffredinol, a cheisio annibyniaeth i Gymru. Bu farw 19 Mawrth 1970 yn Bogota a chladdwyd ef yno.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1997

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.