Ganwyd yn Nhreorci, Cwm Rhondda, Morgannwg, 14 Rhagfyr 1864, yn ail o ddeg o blant Thomas Jacob y gof ac Ann (ganwyd Harries) ei wraig. Codwyd ef i bregethu yn eglwys Bethania, ac aeth yn 1885 i ysgol Watcyn Wyn yn Rhydaman i baratoi at goleg a chael mynd i Lancashire College, Manceinion. Priododd ar 20 Awst 1890 â Margaret Ellen Evans o Landeilo, a chawsant bump o blant, dwy ferch a thri mab. Bu'n weinidog ym Methel, Trecynon, Aberdâr, 1889-98, Peniel ger Caerfyrddin, 1898-1912, a'r Tabernacl, Abergwaun, 1912-34. Yr oedd yn bregethwr efengylaidd ei duedd, a'i ffraethineb ddarluniadol yn hoelio sylw ac yn grymuso'i genadwri. Bu'n barddoni cryn dipyn yn ei gyfnod cynnar, ac yn ysbeidiol wedyn drwy'r blynyddoedd. Yr oedd mewn cymaint bri fel darlithydd ag oedd fel pregethwr; yr oedd yn gampwr ar bortreadu hen gymeriadau, ac enynnai ddiddordeb ac edmygedd drwy'r wlad oll. Ymhlith ei ddarlithiau yr oedd 'Stori nhad', 'Yr hen goliar', 'Yr hen godwr canu', 'Hen gymeriadau', 'General Booth', 'Gwlad y Dyn Du'. Ei ddiddordeb yng ngwaith cenhadol yr eglwys, a'i wasanaeth iddo, oedd yn gyfrifol am y ddau lyfr hyn a ysgrifennodd Dilyn y wawr, Cofiant Hopcyn Rees. Cyhoeddodd hefyd: Caneuon y bwthyn, Hanes eglwys y Tabernacl, Abergwaun (1945), dau lyfryn o gatecismau ar gân i blant, ac Atgofion H.T. Jacob (1960). Bu ar daith yn Ne Affrica yn 1922-23, a chyfarfod y pennaeth Khama, a phregethu o'i flaen. Etholwyd ef yn is-gadeirydd Undeb yr Annibynwyr yn 1931 ond bu rhaid iddo gychwyn blwyddyn ei gadeiryddiaeth yn Ionawr 1932 i orffen tymor Peter Price. Bu farw ei briod yn 1950, ac yntau ar 18 Mai 1957, a chladdwyd ef ym mynwent y Tabernacl, Abergwaun.
Dyddiad cyhoeddi: 1997
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.