Ganwyd 8 Ionawr 1885 yn Budloy, Maenclochog, Penfro, yn fab ieuangaf David a Sarah Alice Jenkin. Ar ôl gadael ysgol elfennol Garnrochor gweithiodd ar y fferm gyda'i rieni a'i frawd. Aeth i Goleg Prifysgol Cymru, Aberystwyth, yn Hydref 1907 i ddilyn cwrs byr mewn amaethyddiaeth (un tymor), ac aeth yn ei ôl i ddilyn cwrs parhad mewn amaethyddiaeth (dau dymor) 1908-1909. Aeth i ysgol yr Hen Goleg, Caerfyrddin, yn 1909 i astudio ar gyfer matriculation y brifysgol, ac yn ôl i'r coleg yn Aberystwyth yn 1910, ac ennill gradd B.Sc. yn 1914 gydag anrhydedd yn y dosbarth cyntaf mewn botaneg. Bu'n drefnydd amaethyddiaeth ym Mrycheiniog a Maesyfed, 1914-15, ac yn gynghorydd mewn botaneg amaethyddol dan y Bwrdd Amaethyddiaeth a Physgodfeydd yn siroedd cylch Coleg Prifysgol Gogledd Cymru, Bangor, 1915-19, ac yn siroedd cylch y coleg yn Aberystwyth, 1919-20. Ymunodd a staff Bridfa Blanhigion Cymru yn 1920, a bu'n brif swyddog ymchwil tan ei ddyrchafu'n is-gyfarwyddwr yn 1940 ac yn gyfarwyddwr ac yn Athro Botaneg Amaethyddol, 1942-50. Cydnabyddir ef yn arloeswr mewn bridio trasau newydd a rhagorach o borfeydd amaethyddol a chafodd y technegau a ddatblygwyd ganddo eu mabwysiadu ledled y byd. Ceir yn ei draethawd anrhydedd yn 1914 y cyfeiriad ysgrifenedig cyntaf at yr angen i sefydlu bridfa blanhigion swyddogol, a bu ei ysgrif, ar y cyd gydag R.G. Stapledon yn y J. Agric. Sci., 8 (1916), ar borfeydd cynhenid yn sylfaen i lawer o'r gwaith a gyflawnwyd ar ôl sefydlu Bridfa Blanhigion Cymru yn 1919. Yn ogystal â'i wybodaeth ymarferol o amaethyddiaeth fel ffermwr ac fel cynghorydd amaethyddol, yr oedd ganddo 'lygad' eithriadol i ganfod nodweddion gwyrddlesni a chynnyrch a pharhad mewn porfeydd cynhenid. Yr oedd ei ddawn fel gwyddonydd a'i ymroddiad fel ymchwiliwr yn ei alluogi i groesi'r gwahanol blanhigion a ddewiswyd ganddo ac i ddethol ymhlith yr epil ac i ddatblygu trasau rhagorach ar gyfer sefydlu tir glas newydd cynhyrchiol a pharhaol. Un enghraifft o hyn yw ei rygwellt parhaol S.23 a roddodd gyfraniad amhrisiadwy i'r gwaith o ail-hadu tir glas cynhyrchiol ar lawr gwlad, y ffriddoedd a'r bryndir o'r tridegau ymlaen. At hyn, erys ei ymchwiliadau sylfaenol i'r berthynas oddi mewn i rywogaethau a rhwng rhywogaethau y porfeydd, megis Lolium, Festuca a Phallaris, yn batrwm o ymroddiad gwyddonol manwl gydag ond y lleiafswm o'r cyfarpar a'r adnoddau a ddaeth i law y bridiwr planhigion yn ail hanner yr ugeinfed ganrif. Ar ôl ymddeol yn 1950 aeth ati i gyhoeddi llawer o ffrwyth ei ymchwiliadau lluosog mewn geneteg porfeydd. Cyhoeddodd amryw erthyglau yn y maes hwn yn y Journal of Genetics ac mewn cylchgronau gwyddonol eraill, ynghyd â'r gwaith a gyhoeddwyd ganddo ym mwletinau'r Fridfa. Cafwyd ganddo erthyglau gwerthfawr yn Gymraeg yn Gwyddor Gwlad, ac yng nghylchgrawn cymdeithas amaethyddol y coleg yn Aberystwyth, ac y mae ei stori fer ' Cawl ' yn y Wawr, cylchgrawn Cymraeg coleg Aberystwyth yn 1917 yn drysorfa o dafodiaith Sir Benfro. Bu'n gyfarwyddwr cynghorol Biwro Amaethyddol y Gymanwlad mewn Tir Glas a Chnydau'r Maes o 1942 i 1950, a rhoddodd wasanaeth gwerthfawr ar gyngor a pwyllgorau'r Sefydliad Cenedlaethol mewn Botaneg Amaethyddol yng Nghaergrawnt. Bu'n llywydd Cymdeithas y Gwartheg Duon Cymreig, 1950-51, ac iddo ef y dyfarnwyd am y tro cyntaf fedal aur Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru. Enillodd radd M.Sc. a D.Sc. o Brifysgol Cymru, fe'i hanrhydeddwyd â'r C.B.E. yn 1950, ac fe'i gwnaed yn aelod er anrhydedd o Gymdeithas Hadau Sweden yn 1961.
Priododd, 1919, Kate Laura Griffiths a ganwyd iddynt ddau fab. Bu farw 7 Tachwedd 1965, yn Aberystwyth a chladdwyd ef ym mynwent y dref.
Dyddiad cyhoeddi: 1997
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.