JENKINS, JOSEPH (1886 - 1962), gweinidog (EF) ac awdur

Enw: Joseph Jenkins
Dyddiad geni: 1886
Dyddiad marw: 1962
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: gweinidog (EF) ac awdur
Maes gweithgaredd: Crefydd; Llenyddiaeth ac Ysgrifennu
Awdur: Gwilym Richard Tilsley

Ganwyd 4 Tachwedd 1886 yn Tŷ Newydd, Pontrhydygroes, Ceredigion, ei dad yn gefnder i'r gweinidog Joseph Jenkins. Addysgwyd ef yn ysgol Ysbyty Ystwyth a dechreuodd weithio yn 13 oed yn un o weithfeydd mwyn plwm yr ardal. Cafodd gyfnod pellach o addysg yn ysgol y Gwynfryn, Rhydaman, cyn mynd yn was cylchdaith i Landeilo. Ar ôl ei dderbyn i'r weinidogaeth treuliodd flwyddyn yn Aberaeron a chyfnod yng ngholeg Handsworth, Birmingham. Gwasanaethodd yn y cylchdeithiau canlynol: Llanbedr Pont Steffan, Llandeilo, Machynlleth (dau gyfnod), Tredegar, Aberystwyth, Biwmares, Caernarfon, Pwllheli, Blaenau Ffestiniog. Aeth yn uwchrif yn 1959. Rhwng 1926 ac 1952 cyhoeddodd 14 o lyfrau storïau i blant, rhai fel Robin y pysgotwr, Siencyn Tanrallt, Straeon athro, Bechgyn y bryniau, etc. a fu'n boblogaidd iawn. Cyhoeddodd bump o ddramâu a bu mynd mawr ar rai ohonynt fel Dal y lleidr a Dan gwmwl. Cyhoeddodd werslyfr Hanes yr Efengylau yn 1931. Golygodd Y Winllan 1948-53 a bu'n Llywydd y Gymanfa 1951. Yr oedd yn aelod anrhydeddus o Orsedd y Beirdd a derbyniodd wobr goffa Syr O.M. Edwards yn 1947 am ei gyfraniad i lenyddiaeth. Cyfrannodd lawer i'r cylchgronau. Pr Mary Catherine Williams, Dafen, a bu iddynt fab a merch. Bu farw 21 Ebrill 1962.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1997

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.