JENKINS, DAVID LLOYD (1896 - 1966), llenor, prifardd, ac ysgolfeistr

Enw: David Lloyd Jenkins
Dyddiad geni: 1896
Dyddiad marw: 1966
Priod: Arianwen Elizabeth Ann Jenkins (née Lewis)
Rhiant: Betha Jenkins (née Lloyd)
Rhiant: William Jenkins
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: llenor, prifardd, ac ysgolfeistr
Maes gweithgaredd: Addysg; Eisteddfod; Llenyddiaeth ac Ysgrifennu; Barddoniaeth
Awdur: Evan David Jones

Ganwyd 20 Tachwedd 1896 yn y Foelallt, Llanddewibrefi, Ceredigion, yn fab i William a Betha (ganwyd Lloyd) Jenkins. Yr oedd y tad yn swyddog presenoldeb plant ysgol. Cafodd y mab ei addysg yn ysgol gynradd y pentre cyn mynd ym mis Medi 1909 i ysgol sir Tregaron. Oddi yno, aeth yn 1915 i Goleg Prifysgol Cymru, Aberystwyth, a graddio yn 1918 gydag anrhydedd dosbarth II mewn Cymraeg ac athroniaeth yn brif bwnc atodol. Dyfarnwyd iddo ysgoloriaeth ymchwil a arweiniodd i radd M.A. ar ddatblygiad canu rhydd yr unfed a'r ail ganrif ar bymtheg, ac ysgoloriaeth Meyrick yng Ngholeg Iesu, Rhydychen, yn 1921, ond ni chymerodd radd yno. Yr oedd yn un o ddarlithwyr Ysgol Haf y Barri yn 1922. Bu'n athro yn ysgol elfennol Lledrod cyn cael ei benodi'n athro Saesneg yn ei hen ysgol yn Nhregaron yn 1924; yno y bu weddill ei gyfnod gweithio, gan fod yn brifathro o 1945 nes ymddeol yn 1961. Enynnodd gariad at lenyddiaeth Saesneg a Chymraeg yn ei ddisgyblion drwy ei ddiwylliant a'i bersonoliaeth fonheddig.

Ymddiddorodd yn gynnar mewn barddoniaeth Gymraeg, caeth a rhydd, ac yr oedd yn feistr ar y gynghanedd. Yn ei ddyddiau coleg cyfrannodd delynegion ac ysgrifau i Cymru a'r Dragon, a hefyd ystorïau byrion ac ysgrifau i'r Welsh Outlook, Y Ford Gron, a Chylchgrawn Cymdeithas Ceredigion Llundain. Cafodd wobrwyon am ysgrifau yn yr Eisteddfod Genedlaethol yn 1942 ac 1943. Daeth yn agos at gael y gadair cyn iddo, yn 1944, ei hennill gyda'i awdl ar ' Ofn ' yn Llandybïe. Cyfieithodd eiriau ar gyfer gerddoriaeth, e.e. Prifwyl Pan, 1925, ' Cwsg, cwsg, dlysaf un ' (Blake), 1927, a ' Teg ei gwedd ' o Alcina Handel. Gydag S.M. Powell cyfansoddodd y libreto i'r Trwbadŵr, y gerddoriaeth gan J.T. Rees, 1929. Bu'n arholwr i Orsedd y Beirdd ac yr oedd yn aelod wrth yr enw ' Moelallt '.

Yn wyneb y diddordeb mewn drama yn ysgol sir Tregaron, nid yw'n syndod iddo gyhoeddi Y Trysor cudd: drama fer yn nhafodiaith canolbarth Ceredigion, 1921, Ffortiynau, comedi seml un act a berfformiwyd yn 1937 gan gwmni drama'r ysgol, a Gwanwyn, neu yr hen wr yn mynd i ffwrdd, cyfieithiad o ddrama un act gan T.C. Murray. Yn 1948 cyhoeddodd gyfrol o'i gerddi syml i blant, Awelon y bore (Gwasg y Druid). Ei brif waith yw Cerddi Rhydd Cynnar (detholiad o farddoniaeth rydd Cymru'r XVIeg ganrif a dechrau'r XVIIeg), 1931, sydd yn llyfr digon prin. Seiliwyd hwn ar ei waith ymchwil yn y 1920au cynnar, a gresyn na adawodd pwysau gwaith ysgol iddo gyhoeddi rhagor o'i waith ysgolheigaidd.

Yn ei wleidyddiaeth yr oedd yn Rhyddfrydwr radicalaidd, yn llywydd ei blaid yn y sir am gyfnod, ac yn areithydd ar lwyfannau etholiad. Yr oedd yn flaenor yng nghapel Bwlch-gwynt (MC), yn godwr canu a byddai'n pregethu ar dro. Cynhwysir dau o'i emynau yn Llyfr Gwasanaeth yr ysgol - emyn yr ysgol ac emyn Gŵyl Ddewi.

Priododd, 29 Rhagfyr 1929, Arianwen Elizabeth Ann (Ane), merch hynaf Gruffydd Thomas Lewis, prifathro'r ysgol, a bu iddynt un ferch. Bu farw 5 Awst 1966.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1997

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.