LEWIS, GRUFFYDD THOMAS, neu G. Tom, ei lofnod arferol, (1873 - 1964), ysgolfeistr a lleygwr blaenllaw yng nghyfundeb y MC

Enw: Gruffydd Thomas Lewis
Dyddiad geni: 1873
Dyddiad marw: 1964
Priod: Annie Lewis (née Thomas)
Plentyn: Arianwen Elizabeth Ann Jenkins (née Lewis)
Rhiant: Elizabeth Lewis (née Harries)
Rhiant: David Watts Lewis
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: ysgolfeistr a lleygwr blaenllaw yng nghyfundeb y MC
Maes gweithgaredd: Crefydd; Addysg
Awdur: Evan David Jones

Ganwyd 3 Chwefror 1873, ym Mhil-rhoth, Llan-gain, Caerfyrddin, yn fab i David Watts Lewis, gweinidog (MC) a adweinid yn gyffredinol fel David Lewis Llanstephan, ac Elizabeth (ganwyd Harries) ei wraig. Brodor o Aberystwyth oedd David Lewis, mab Thomas Lewis a hanai o Lanrhystud. Cyfenw morwynol ei fam oedd Watts y dywedir ei bod o'r un cyff ag Isaac Watts (1674 - 1748) yr emynydd Seisnig, ond nid arddelai David Lewis ei ail enw bedydd. Wedi cychwyn fel saer dodrefn troes at bregethu a'i ordeinio yn Llangeitho yn 1875. Daeth i gryn fri fel pregethwr a cheir darlun byw ohono mewn tair pennod yn Efengylwyr Seion James Morris. Yr oedd ei wraig yn chwaer i T. J. Harries, sefydlydd ffyrm yn Oxford St., Llundain. Hi a ofalai am fferm fychan Pil-rhoth, gan ryddhau ei gŵr i fynd i'w fynych deithiau pregethu. Bu ef farw yn 1896 yn 66 oed, a hithau mewn gwth o oedran yn 1933. Yr oedd hi o'r un teulu â William Williams, A.S.

Enwyd y mab yn Gruffydd Thomas o barch i flaenor o'r enw hwnnw a oedd yn gyfaill mynwesol i'w dad yn Aberystwyth. Cafodd G. Tom Lewis ei addysg yn ysgol elfennol Llan-y-bri ac Ysgol yr Hen Goleg, Caerfyrddin, ac oddi yno yr aeth gydag ysgoloriaeth i Goleg Llanymddyfri yn 1889. Pasiodd arholiad matriculation Prifysgol Llundain yn 1893 ac enillodd ysgoloriaeth i Goleg Sidney Sussex yng Nghaergrawnt, lle y graddiodd yn yr ail ddosbarth (senior optime) yn 1896, ac yn M.A. yn 1900. Bu'n amlwg mewn chwaraeon yn y coleg gan rwyfo yn y cwch cyntaf. Ar derfyn ei gwrs penodwyd ef yn ail athro i ysgol uwchradd Doc Penfro, ond yn 1897 apwyntiwyd ef yn brifathro cyntaf ysgol sir Tregaron a agorwyd yn Neuadd y Dref. Ef a fu'n gyfrifol am arolygu codi adeiladau parhaol yr ysgol ar batrwm ysgol sir Arberth ac am ei gosod yn gadarn ar ei thraed a'i llywio gyda medr a brwdfrydedd hyd at ei ymddeoliad yn 1937. Yr oedd yn athro llwyddiannus ac ef oedd yn bennaf gyfrifol am ddysgu mathemateg drwy'r ysgol a hynny o Ysgrythur a geid ar yr amserlen. Defnyddiai hwnnw fel cyfrwng i wella Saesneg y dosbarth isaf. Cadwai ddisgyblaeth gadarn ond heb fod yn haearnaidd. Yr oedd ei hiwmor iach a'i synnwyr digrifwch yn lliniaru a goleuo'i safbwynt biwritanaidd. Fel y rhelyw o athrawon a rhieni ei gyfnod yr oedd dod ymlaen yn y byd yn uchelgais i'w meithrin yn y disgyblion. Iddo ef, yr oedd dalgylch gwbl Gymreig yr ysgol yn ei gwneud yn ddianghenraid i ganolbwyntio ar addysg Gymraeg. Teimlai mai prif angen y plant oedd hyfforddiant trwyadl mewn Saesneg gan mai honno oedd yr iaith wannaf iddynt. Yr oedd yn gefnogwr brwd i eisteddfod flynyddol yr ysgol a chyfrifai ei bod yn elfen werthfawr yn ei bywyd a'i chymeriad. Ceid golwg gwbl wahanol arno yng nghyfarfodydd yr wythnos yn festri capel MC Bwlch-gwynt, ac am ran helaethaf ei yrfa yn Nhregaron byddai llawer o blant yr ardaloedd cylchynol yn aros yn y dref o fore Llun tan nos Wener, ac ym Mwlch-gwynt caent ef yn Gymro glân ac yn flaenor blaenllaw er 1912. Sicrhâi'r plant a fynychai'r cyfarfodydd mai hwy fyddai debycaf o ragori yn yr arholiadau ysgol. Ymhyfrydai yn y nifer o weinidogion a godwyd yn yr ysgol yn ei gyfnod.

Gwasanaethodd ar lu o bwyllgorau allweddol Cyfundeb y MC a chydnabuwyd hynny yn ei ddyrchafiad i lywyddiaeth Sasiwn y De am y flwyddyn 1936-37, a oedd hefyd yn flwyddyn coffáu canmlwyddiant marw Ebenezer Richard a wnaeth Dregaron yn enw teuluaidd yng Nghymru.

Priododd Annie, unig blentyn John Thomas (1839 - 1921) a'i wraig Ann (ganwyd Williams) o Lanwrtyd, yng nghapel Heol Dŵr, Caerfyrddin, ar 27 Rhagfyr 1901. Bu iddynt 5 o ferched. Bu hi farw 10 Mehefin 1939, ac yntau 20 Gorffennaf 1964. Claddwyd y ddau ym mynwent capel Bwlch-gwynt.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1997

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.