Ganwyd ym Minffordd, Llangeinwen, Môn, 17 Mai 1865, yn fab i was fferm o'r enw Thomas Jones, a'i wraig Ann (ganwyd Williams). Wedi cyfnod yn ddisgybl-athro yn ysgol S. Paul, Bangor, penderfynodd fynd yn offeiriad. Addysgwyd ef, 1889-90, yn ysgol ddiwinyddol Bangor (dan nawdd hostel yr eglwys, lle ceid hyfforddiant mewn darllen, pregethu, ymweld, etc.), ac yn 1890 ymaelododd ym Marcon's Hall, Rhydychen. Ordeiniwyd ef yn Lerpwl, 1894, dros esgob Sodor a Manaw, ac am ddwy fl. bu'n gurad Rushen, ynys Manaw. Yn 1896 dychwelodd i esgobaeth Bangor, yn gurad S. Ann, Llandygai. Yn 1905 cafodd fywoliaeth Penmachno, gan Arglwydd Penrhyn, ac arhosodd yno hyd 1923 pan benodwyd ef yn ficer Llanfair-is-gaer (Y Felinheli) gan fwrdd nawdd yr esgobaeth. Dyrchafwyd ef yn ganon, 1930, ac ef oedd Canghellor eglwys gadeiriol Bangor o 1937 nes cyrraedd oed ymddeol i gangellorion yn 1940. Bu'n ddeon gwlad Arllechwedd, 1935-48. Atgyweiriodd hen eglwys Llanfair-is-gaer a'r eglwys newydd, a thrwy ei weithgarwch ef y codwyd neuadd yr eglwys yn Y Felinheli. Ymddeolodd yn 1948 ond parhaodd i fyw yn Y Felinheli. Bu farw 16 Rhagfyr 1953, a chladdwyd ef yn Llanfair-is-gaer. Gadawodd weddw; ni bu iddynt blant.
Trwy gydol ei oes bu'n weithgar gyda gwasg gyfnodol yr eglwys. Bu'n olygydd Yr Haul 1913-20, yn olygydd Y Llan, 1919-38, ac yr oedd yn gysylltiedig â'r arbrawf i gael papur dwyieithog i'r Eglwys yng Nghymru, Y Llan and Church News, a'r Church family newspaper. Bu ei wasanaeth i'r wasg eglwysig ym mlynyddoedd blin Rhyfel Byd I, ac yn y cyfnod anodd yn union ar ôl datgysylltiad, yn gadarn a doeth. Bu'n aelod o gorff llywodraethol yr Eglwys yng Nghymru o'r cychwyn hyd 1951.
Yr oedd yn gerddor medrus; am lawer blwyddyn ef oedd cadeirydd pwyllgor cerdd yr esgobaeth. Cododd gorau plant a chorau oedolion, ac ennill gwobrau lawer. Urddwyd ef yn aelod o Orsedd y Beirdd dan yr enw ' Heulog '.
Yr oedd yn ŵr tal, urddasol, a'i bersonoliaeth hawddgar yn ennyn gwrandawiad ac yn ei wneud yn arweinydd a chynghorwr naturiol. Yr oedd wrth ei fodd mewn dadl, bob amser yn barod i ymladd dros gyfiawnder, heb ofni tynnu gwg hyd yn oed yr archesgob. Cymerai'n ganiataol fod y plwy i gyd dan ei ofal; fe'i croesewid gan bob enwad, ac yr oedd yn gartrefol ym mhob cwmni. Yr oedd yn un o'r rhai a gychwynnodd ' Glwb y Felin '. Cawr o ddyn, ym mhob ystyr, oedd ' Y canghellor Ben '.
Dyddiad cyhoeddi: 1997
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.