JONES, GWILYM GWALCHMAI (1921 - 1970), cerddor

Enw: Gwilym Gwalchmai Jones
Dyddiad geni: 1921
Dyddiad marw: 1970
Rhiant: Miriam Jones
Rhiant: William Tomley Jones
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: cerddor
Maes gweithgaredd: Addysg; Cerddoriaeth; Perfformio
Awdur: Huw Williams

Ganwyd yn Llanerfyl, Trefaldwyn, 4 Ionawr 1921, yn fab i William Tomley Jones a'i wraig Miriam. Addysgwyd ef yn ysgol gynradd Llanerfyl ac yn ysgol uwchradd Llanfair Caereinion, a bu'n astudio cerddoriaeth yn breifat gyda Maldwyn Price, Dr. Calvert (organ) a Powell Edwards (canu). Yn ddiweddarach dilynodd gwrs mewn cerddoriaeth yn y Coleg Cerdd Brenhinol ym Manceinion (1950-53), lle y daeth i fri fel datganwr ac yr enillodd fathodyn aur ('Curtis') y coleg (yr anrhydedd uchaf am ganu). Dewisodd astudio ymhellach yn adran opera'r coleg (1953-54), ac ennill gwobr yr Imperial League of Opera (1954).

Bu'n dysgu (yn rhan-amser) yn ysgol uwchradd Llanfair Caereinion (1954-57) cyn ei benodi (yn 1957) yn aelod o staff y Coleg Cerdd Brenhinol ym Manceinion, lle y dyfarnwyd iddo gymrodoriaeth anrhydeddus y coleg ychydig wythnosau cyn ei farwolaeth sydyn (yn Llanerfyl), 12 Ionawr 1970. Sefydlwyd cronfa goffa yn dwyn ei enw i gynorthwyo cantorion Cymreig addawol i dderbyn hyfforddiant yn y coleg ym Manceinion.

Fe'i cofir yn arbennig fel athro canu llwyddiannus, ac fel gŵr a fu'n fawr ei sêl dros ddyrchafu safonau datganu. Ar ôl ennill ei hun ar ganu yn yr Eisteddfod Genedlaethol ac yn Eisteddfod Gydwladol Llangollen, agorodd stiwdio ganu yn y Rhyl, Caernarfon a Wrecsam (1954-57), a daeth amryw o'i ddisgyblion yn ffigurau amlwg ym myd yr eisteddfod a'r cyngerdd. Enillodd llu o'r myfyrwyr a fu'n astudio wrth ei draed yn y coleg ym Manceinion hefyd fri cydwladol ym myd yr opera.

Yng nghanol ei holl brysurdeb fel darlithydd coleg, bu galw mawr am ei wasanaeth ledled Cymru fel arweinydd cymanfa a beirniad eisteddfod. Ef hefyd a sefydlodd (yn 1959) Gantorion Gwalia, a ystyrid yn arbrawf diddorol am fod pob aelod o'r parti hwnnw yn unawdydd profiadol.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1997

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.