Fe wnaethoch chi chwilio am anna fison
Ganwyd 2 Ionawr 1870, unig fab Thomas ac Elizabeth Davies, Bremenda, Llanarthne, Sir Gaerfyrddin. Derbyniodd ei addysg yn ysgol ramadeg Caerfyrddin, ac yn ogystal â'i waith fel amaethwr cymerodd ran amlwg ym mywyd cyhoeddus y cylch yn gynnar ar ei oes. Ef oedd cadeirydd cyntaf cyngor plwyf Llanarthne, ac etholwyd ef yn aelod o gyngor sir Caerfyrddin yn 22 oed. Dewiswyd ef yn gadeirydd y cyngor sir yn 1902, ac yn ddiweddarach yn gadeirydd y pwyllgor addysg. Yn 1905 penodwyd ef yn oruchwyliwr tir dros y sir (county land agent), a'r flwyddyn honno hefyd dewiswyd ef yn ynad heddwch dros y sir. Yn ddiweddarach bu'n gadeirydd mainc ynadon Caerfyrddin.
Ond yn sicr, fel un o arloeswyr y mudiad cydweithredol amaethyddol yng Nghymru y cofir orau amdano, ac yn y maes hwnnw y bu ei gyfraniad pwysicaf. Yn 1902, yn ystod ei gyfnod fel cadeirydd y cyngor sir, gweithredodd fel ysgrifennydd i ddirprwyaeth o gynrychiolwyr tair sir gorllewin Cymru a ymwelodd ag Iwerddon i astudio datblygiad y mudiad cydweithredol a sefydlwyd yno eisoes. Fel canlyniad i'r ymweliad hwnnw sefydlwyd Cymdeithas Cydweithredol Amaethwyr Caerfyrddin yn 1903, gydag ef yn ysgrifennydd iddi. Yn fuan ar ôl hyn daeth yn aelod amlwg o'r Gymdeithas Gydweithredol Amaethyddol (A.O.S.), gwasanaethodd fel un o lywodraethwyr y gymdeithas, a chynrychiolodd Gymru yn ei phencadlys yn Llundain hyd oni sefydlwyd Cymdeithas Trefnu Gwledig Cymru (W.A.O.S.) fel corff annibynnol yn 1922. Bu'n aelod o'r gymdeithas honno am ei oes, yn islywydd am nifer o flynyddoedd, ac yn llywydd, 1946-53. Bu'n aelod o'r Comisiwn Datblygu dros Gymru, 1910-36, ac fel cydnabyddiaeth o'i gyfraniad pwysig i'r comisiwn gwnaed ef yn C.B.E. yn 1936. Cynrychiolodd y comisiwn hefyd ar bwyllgor gwaith Cymdeithas Gydweithredol Amaethyddol Iwerddon, 1914-21.
Yn 1903 priododd Winifred Anna, merch ieuangaf Thomas ac Elizabeth Ellis, Cynlas, Cefnddwysarn, y Bala, a chwaer Thomas Edward Ellis, a chartrefodd yng Nglyneiddan, Nantgaredig, Sir Gaerfyrddin. Bu iddynt un ferch a dau fab; y mab hynaf oedd T. E. Jones-Davies (1906 - 1960). Bu farw 16 Mehefin 1955, a chladdwyd ef yn Nantgaredig.
Dyddiad cyhoeddi: 1997
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.