Ganwyd yn 1894 yn Llandegfan, Môn, yn fab i J. E. Jones, gweinidog (MC) a'i briod o'r lle hwnnw. Addysgwyd ef yn ysgol sir Caergybi, Coleg y Brifysgol, Bangor (lle graddiodd yn y celfyddydau), a choleg Mansfield, Rhydychen (lle cafodd radd B.Litt.). Cafodd radd M.A. Prifysgol Cymru yn 1921 am draethawd ar emynyddiaeth y Diwygiad Methodistaidd gyda sylw arbennig i emynau Williams, Pantycelyn. Ordeiniwyd ef yn 1922, a bu'n gweinidogaethu ym Mae Colwyn (1922-24), Moriah, Utica, T.U.A. (1924-31), a Douglas Road, Lerpwl (1931-51). Penodwyd ef yn ysgrifennydd cyffredinol Cymdeithas Genhadol y MC yn 1951, ac ymwelodd â'r meysydd cenhadol yn India, Pacistan a Llydaw. Priododd, 1926, Elizabeth Margaret Edwards, a ganwyd iddynt ddau o feibion. Bu farw 24 Rhagfyr 1960.
Cyhoeddodd gyfrol ar hanes Moriah yn ystod ei gyfnod yn Utica. Rhoes wasanaeth mawr i fywyd Cymreig glannau Mersi; sefydlodd aelwydydd Urdd Gobaith Cymru yno a golygu Y Glannau o 1944 ymlaen. Bu'n aelod hefyd o fwrdd golygyddol Y Ffordd (cylchgrawn pobl ieuainc y MC). Cyhoeddodd hefyd Lawlyfr ar genhadaeth bersonol yn 1939. Ei gyfraniad pwysicaf yw'r gyfrol Aleluia gan y Parch. William Williams Pant y Celyn (1926), sef arg. diplomatig o rannau I-VI o Aleluia, 1744-47, Williams, Pantycelyn, gyda rhagarweiniad gwerthfawr. Gan fod copïau o'r Aleluia mor anarferol o brin, y mae'r gyfrol hon o werth amhrisiadwy i efrydwyr emynau Pantycelyn.
Dyddiad cyhoeddi: 1997
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.