JONES, MAURICE (1863 - 1957), offeiriad a phrifathro coleg

Enw: Maurice Jones
Dyddiad geni: 1863
Dyddiad marw: 1957
Priod: Jennie Bell Jones (née Smith)
Priod: Emily Jones (née Longmore)
Rhiant: Catherine Jones
Rhiant: William Jones
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: offeiriad a phrifathro coleg
Maes gweithgaredd: Crefydd; Addysg; Eisteddfod
Awdur: Mary Gwendoline Ellis

Ganwyd 21 Mehefin 1863, yn Nhrawsfynydd, Meirionnydd, ail fab William Jones, crydd, a'i wraig, Catherine. Cafodd ei addysg yn yr ysgol leol, a chydag ysgoloriaethau yn Ysgol Friars, Bangor a Choleg Crist Aberhonddu, lle'r oedd y Dr. D. Lewis Lloyd yn brifathro. O Aberhonddu aeth i Goleg Iesu, Rhydychen, a graddio gydag anrhydedd dosbarth cyntaf mewn diwinyddiaeth yn 1886. Enillodd raddau M.A. a B.D., 1907, a D.D., 1914. Ordeiniwyd ef yn ddiacon yn 1886, ac yn offeiriad 1887. Bu'n gurad yng Nghaernarfon, 1886-88, ysgrifennydd cynorthwyol Cymdeithas y Curadiaid Ychwanegol, 1888-89, a churad y Trallwm, 1889-90. O 1890 hyd 1915 bu'n gaplan yn y lluoedd arfog. Yn ystod rhyfel De Affrig yr oedd yn aelod o staff yr Arglwyddi Roberts a Kitchener. Wedi gadael y fyddin derbyniodd fywoliaeth Rotherfield Peppard gan Goleg Iesu a bu yno tan 1923, pryd y penodwyd ef yn brifathro Coleg Dewi Sant, Llanbedr Pont Steffan. 70 o fyfyrwyr oedd yno pan gyrhaeddodd ond ymegnïodd i godi'r nifer yn gyson nes cyrraedd dros 200 pan ymddeolodd yn 1938. Ymgeiswyr am urddau oedd mwyafrif y myfyrwyr, a gweithiodd y rhan fwyaf ohonynt yng Nghymru. Fe'i penodwyd yn ganon Tyddewi yn 1923. Bu'n arholydd cyhoeddus yn Rhydychen, 1921-22, ac yn arholydd i radd B.D. ym Mhrifysgol Cymru, 1922. Fel pennaeth Coleg Dewi Sant yr oedd yn gymrawd o Goleg Iesu, Rhydychen. Yr oedd yn aelod o'r pwyllgor adrannol a gyhoeddodd adroddiad Y Gymraeg mewn addysg a bywyd, 1927. Etholwyd ef yn llywydd Cyngor Cenedlaethol Cymreig Undeb Cynghrair y Cenhedloedd, 1928.

Yr oedd yn aelod o Orsedd y Beirdd wrth yr enw Meurig Prysor, a bu'n drysorydd yr Orsedd o 1925 hyd 1938, pan etholwyd ef yn Fardd yr Orsedd. Bu'n Dderwydd gweinyddol o 1947 hyd 1957, ac ni bu ond y dim rhyngddo a chael ei ethol yn Archdderwydd yn 1955. Yn 1955 gwnaethpwyd ef yn Gymrawd yr Eisteddfod. Yr oedd yn aelod o Gyngor Cenedlaethol Cerddoriaeth ac yn gadeirydd Cymdeithas Caredigion Cerdd. Gwnaethpwyd ef yn un o is-lywyddion Anrhydeddus Gymdeithas y Cymmrodorion.

Ar ôl gorffen ei wasanaeth tramor gyda'r lluoedd yn 1908 ymroes i astudiaeth o'r Testament Newydd a chyhoeddwyd ei lyfr cyntaf St. Paul the orator yn 1910. Dilynwyd hwn gan The New Testament in the twentieth century, 1914, The Epistle to the Philippians, 1918, The four gospels, 1921, a The Epistle of St. Paul to the Colossians, 1923. Ysgrifennodd i amryw gylchgronau yn Saesneg a Chymraeg. Yr oedd yn bregethwr enwog. Gŵr bychan, tenau, cringoch ydoedd a daliodd yn hynod heini ac ieuanc ei ysbryd hyd y diwedd. Yn 1940 ac eilwaith yn 1944 bu raid iddo adael ei gartref yn Llundain oherwydd difrodi ei dŷ gan gyrchoedd awyr. Wedi methu cael tŷ cymerodd ofal plwyf Bradden yn swydd Northampton, ac yntau'n 82 oed.

Priododd (1), yn 1894, Emily merch y Cyrnol C. M. Longmore, Gosport, a (2), yn 1911, Jennie Bell, merch Sidney Smith, Gosport. Bu farw 7 Rhagfyr 1957. Bu iddo 3 mab a 2 ferch.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1997

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.