JONES, JOHN DAVID RHEINALLT (1884 - 1953), dyngarwr, sefydlydd a chyfarwyddwr South African Institute of Race Relations

Enw: John David Rheinallt Jones
Dyddiad geni: 1884
Dyddiad marw: 1953
Priod: Helen Clare Norfolk Francis Jones (née Verley)
Priod: Edith Beatrice Jones (née Barton)
Rhiant: Sarah Jones
Rhiant: John Eiddon Jones
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: dyngarwr, sefydlydd a chyfarwyddwr South African Institute of Race Relations
Maes gweithgaredd: Dyngarwch; Gwleidyddiaeth a Mudiadau Gwleidyddol; Gwasanaethau Cyhoeddus a Chymdeithasol, Gweinyddiaeth Sifil
Awdur: Gwilym Arthur Jones

Ganwyd 5 Gorffennaf 1884 yn Llanrug, Sir Gaernarfon, mab ieuangaf J. Eiddon Jones a Sarah Jones. Addysgwyd ef yn Ysgol Friars, Bangor, ond yn 1897 ymaelododd fel byrddiwr yn ysgol ramadeg David Hughes, Biwmares, lle'r enillodd y dystysgrif ysgol yn 1900 mewn Saesneg, hanes, rhifyddeg, Lladin, gyda rhagoriaeth yn y Gymraeg. Ymfudodd i Dde Affrig ym mis Hydref 1905. Yr oedd, yn ôl tystiolaeth G.J. Williams, Bangor (20 Mai 1905) o gyfansoddiad cryf ac yn llawn egni. Ymdaflodd i waith dyngarol a bu'n flaenllaw yn yr ymdrech i sefydlu y South African Institute of Race Relations. Ef oedd y cyfarwyddwr o 1930 hyd 1947. Y flwyddyn honno penodwyd ef yn gynghorwr ar faterion brodorol yr Anglo-American Corporation. Eithr cyn hynny buasai'n olygydd (1915) The South African Quarterly gan barhau yn y swydd hyd 1926. Yn 1919 fe'i penodwyd yn ysgrifennydd Cyngor Addysg Witwatersrand - corff answyddogol a sefydlasid gan yr uitlanders ddiwedd y ganrif flaenorol i hyrwyddo addysg. Daeth i gysylltiad ymarferol â'r ymgyrch i drawsnewid y South African School of Mines and Technology (1910) ac i ffurfio coleg y brifysgol (1920). O'r ymdrech hon y sefydlwyd Prifysgol Witwatersrand (1922). Rhwng 1928-30 Rheinallt Jones oedd cofrestrydd cynorthwyol y brifysgol honno. Dyfarnwyd iddo radd M.A. er anrhydedd gan y brifysgol yn 1931 am ei wasanaeth iddi a'i lafur dros broblemau hiliol. Cyfeirir ato yn African Studies (5 Rhagfyr 1953) fel arloesydd y syniad o astudio bywyd a sefydliadau'r Affrig fel pwnc academaidd. Gyda chynhorthwy ei wraig a'r Athro Alfred Hoernlé fe bwysodd am sefydlu adran efrydiau Bantu yn y brifysgol. Gwireddwyd y weledigaeth honno. Rheinallt Jones a gychwynnodd y cylchgrawn Bantu Studies ym mis Hydref 1921 a'i olygu. Bu'n darlithio ar y gyfraith frodorol yn yr adran efrydiau Bantu oddi ar 1929 ac yn ddarlithydd gwadd ar gysylltiadau hil. Yn 1937 dewiswyd ef yn gynrychiolydd cyntaf Affricanwyr y Transvaal a'r Orange Free State yn senedd De Affrig. Sefydlodd hefyd yr Inter-university Committee on African Studies i hyrwyddo a chyfuno ymchwil. Trefnodd gynhadledd genedlaethol o gynrychiolwyr Ewropeaidd a Bantu yn Cape Town yn 1929 a'r flwyddyn honno, gyda chymorth Sefydliad Phelps-Stokes a Chorfforaeth Carnegie (yn ddiweddarach), fe sefydlodd y South African Institute of Race Relations. Yr oedd hwn yn ddigwyddiad o bwys oherwydd fe allesid, o'r diwedd, fynd ati i osod cynlluniau ymchwil a lles ar sylfaen gadarn. Sefydlodd y cylchgrawn Race Relations ac ef oedd y golygydd. Yn ychwanegol at y chwarterolyn hwn bu a wnelo hefyd a'r Race Relations News (misol). Collodd ei sedd yn y senedd yn 1942 i ymgeisydd a feddai syniadau mwy radicalaidd. Yn 1947 derbyniodd swydd cynghorydd ar faterion brodorol i'r Anglo-American Corporation yn Ne Affrig eithr heb dorri cysylltiad llwyr â'i waith gyda'r Institute er y bu rhaid iddo ymddiswyddo fel cyfarwyddwr. Yn 1950 fe'i dyrchafwyd yn llywydd y sefydliad a chafodd gyfle i deithio ar hyd a lled y cyfandir yr oedd bellach yn gymaint awdurdod ar ei broblemau. Ysgrifennodd doreth o adroddiadau ac erthyglau manwl o bob math o bynciau'n ymwneud â phroblemau hiliol a chymdeithasol. Bu'n gysylltiedig â'r Jan H. Hofmeyr School of Social Work, yr Y.M.C.A. ac yn arbennig y Pathfinders (sgowtiaid De Affrig). Daeth yn Chief Pathfinder-Master yn 1926 ac fe'i hanrhydeddwyd â'r Silver Lion gan Brif Sgowt De Affrig yn 1947. Ef oedd comisiynwr sgowtiaid yr Affrig dros y Prif Sgowt. Er cymaint y galwadau arno fel aelod o nifer o gynghorau parhaodd i gadw cysylltiad â Chymru ac â'i frawd Gwilym Cleaton yn arbennig. Ymwelodd â Chymru yn 1936 ac 1952. Yr oedd cyfraniad Rheinallt Jones tuag at greu gwell cyfathrach rhwng y du a'r gwyn yn un tra nodedig. Yn 1944 bu farw ei wraig Edith Beatrice (ganwyd Barton) a briododd yn 1910. Priododd (2) Helen Clare Norfolk Francis (ganwyd Verley) yn 1947. Bu farw 30 Ionawr 1953 a chladdwyd ei weddillion yn amlosgfa Braamfontein.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1997

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.