Ganwyd 8 Mai 1841 yn Rhydymain, Sir Feirionnydd. Cafodd addysg ar gyfer' gwaith athro ysgol yng Ngholeg Llangollen, ac ar gyfer y weinidogaeth yng Ngholeg y Bala, a'i gychwyn mewn cerddoriaeth gan 'Owen Aran.' Yr oedd yn aelod o Goleg y Tonic Solffa ac yn arholwr iddo. Ysgrifennodd hanes y tonic solffa yng Nghymru (Traethodydd, xxiv, 51-60). Cyhoeddodd hanes ' Ieuan Gwyllt ' yn llyfr, Ieuan Gwyllt (Holywell, 1881). Cafodd ei ordeinio yn 1869 a bu'n weinidog Rhiwspardyn, 1869-70, a Llanrug, 1870-97. Bu'n flaenllaw gydag addysg yn Llanrug, ac ef oedd ysgrifennydd bwrdd ysgol y plwyf o'i gychwyn yn 1870 hyd 1890. John Eiddon Jones oedd ysgrifennydd cyntaf Cymdeithas Ddirwestol Gwynedd a pharhaodd yn y swydd hyd ei farw. Rhannwyd gwobr o 100 gini rhyngddo ef â'r Dr. Dawson Burns am draethawd ar ' Y Fasnach Feddwol.' Sefydlodd gyfrinfa y Temlwyr Da yn Llanrug ac ynglŷn â hi cychwynodd eisteddfod leol yn 1874. Cymerai ddiddordeb yn yr eisteddfod genedlaethol ac enillodd wobrau am draethodau ar ddiwygio'r eisteddfod yn yr Wyddgrug, Treherbert (1874), a Phorthmadog (1878), a chynigiai welliannau arni yng Nghyngor yr Eisteddfod yn aml yn ystod y blynyddoedd 1864-81. Ysgrifennodd Hanes Achos Crefyddol y Methodistiaid Calfinaidd yn Llanrug a chyhoeddwyd ef yn 1904 ar ôl iddo ef farw. Bu farw 15 Hydref 1903 a chladdwyd ef ym mynwent capel y Methodistiaid Calfinaidd, Llanrug.
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Cefnogwr DAVID LLOYD GEORGE. Mewn llythyr cydymdeimlad a ddanfonwyd at ei weddw o'r National Liberal Club 16 Hydref 1903 cydnabu'r gwladweinydd mai Eiddon Jones oedd y cyntaf i ofyn iddo sefyll etholiad dros fwrdeistrefi Arfon.
Dyddiad cyhoeddi: 1997
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.