Ganwyd 16 Chwefror 1877; mab i Rees Cribin Jones (gwel. yr Atod.), gweinidog Undodaidd, a Mari Jones, (merch Watcyn a Mari Jones, Ty'n-lofft, Betws Bledrws), mewn 'tŷ yn Heol y Bont a gelwir Glasfryn Stores arno' yn Llanbedr Pont Steffan, Ceredigion; yr oedd yn un o bedwar o blant, eithr bu farw'r tri arall yn fabanod. Cadwai ei dad ysgol, fel llawer o weinidogion Undodaidd eraill y cyfnod, a dichon i'r mab gael peth o'i addysg fore ar ei aelwyd yn Ogmore House, tŷ a adeiladwyd gan y teulu yn yr un dref ym mlwyddyn geni'r mab. Addysgwyd ef wedi hynny yn ysgol Llanbedr (1890-92), ysgol y Parch. David Evans, Cribyn (1892-94), ac ysgol ramadeg LlanybydderLlanybydder, am ychydig, cyn cael mynediad i Goleg Presbyteraidd Caerfyrddin ddiwedd 1894. Meddai ar dueddiadau gwyddonol yn gynnar a maentumir mai ef oedd yr olaf i eistedd ei brawf yno mewn gwyddoniaeth, gan i gwrs addysg yr hen academi gael ei gyfyngu i ddiwinyddiaeth yn fuan ar òl 1895. Cyn diwedd y flwyddyn honno penderfynodd adael cwrs y weinidogaeth (am nad oedd ganddo ddawn siarad, meddai) ac astudio am radd yn y celfyddydau yn Aberystwyth (1895-1900). Oherwydd afiechyd ei fam ymyrrwyd ar ei gwrs; symudodd i Goleg y Brifysgol, Bangor, yn 1900; ennill gradd B.A. yno (1902), yn un o ddosbarth anrhydedd cyntaf John Morris Jones. Yn yr un coleg enillodd B.Sc. gan ddilyn, yn ychwanegol, y cyrsiau newydd mewn amaethyddiaeth a choedwigaeth, a dychwelyd i Aberystwyth i ddilyn cwrs arall mewn amaethyddiaeth (N.D.D.). Gwahoddwyd ef, gydag ysgoloriaeth, i fod yn athro cynorthwyol yn adran botaneg amaethyddol a choedwigaeth yn Ysgol Economeg Wledig Coleg Sant Ioan, Rhydychen. Cydnabyddid ef yn awdurdod ar anatomi coed, a chyhoeddodd lyfr safonol a gwreiddiol, Timbers, their structure and identification (1924): cyfrannodd ar yr un testun i'r Chambers' Encyclopaedia, 1927. Priododd ag Ada Sproxton, 1910.
Er mwyn bod yn agos at ei dad oedrannus, dychwelodd i Gymru yn 1913 i ymuno â'r gwasanaeth gwladol, a dod yn brif arolygydd swyddfa Gymreig y Bwrdd Amaethyddol gyda'i phencadlys yn Aberystwyth. Yn y swydd hon bu'n arloesi a datblygu addysg amaethyddol am chwarter canrif (1913-38), ac o dan ei gyfarwyddyd yn y 1920au cychwynnwyd y pedwar sefydliad amaethyddol yng Nghymru. Yn 1918 derbyniodd radd M.A. gan ei goleg yn Rhydychen, ac yn yr un flwyddyn enillodd radd M.Sc. (Cymru). Ymddeolodd o'r Weinyddiaeth Amaeth yn 1937, yn 60 oed. Yn 1938 derbyniodd, gyda phetruster, wahoddiad i olynu'r Parch J. Park(e) Davies fel prifathro Coleg Presbyteraidd Caerfyrddin. Er nad oedd ganddo gymhwyster diwinyddol i ddysgu yno, namyn Cymraeg a siarad cyhoeddus, bu yn 'un o Brifathrawon mwyaf llwyddiannus holl hanes y Coleg', am gyfnod o wyth mlynedd (1937-45). Tystia'i fyfyrwyr i'w ddisgyblaeth gyfiawn, ei drylwyredd diduedd a'i ysbryd bonheddig a diymhongar. Bu ganddo freuddwydion mawr am ddyfodol y Coleg Presbyteraidd yng Nghaerfyrddin, eithr rhwystrodd amgylchiadau ef rhag eu sylweddoli: ymdrechodd i gyfuno adnoddau helaeth y colegau Undodaidd yn Lloegr (Rhydychen a Manceinion) a choleg Caerfyrddin; tynnodd gynlluniau a chasglodd dros dair mil a hanner o bunnoedd i ehangu'r coleg, gan gynnwys neuadd breswyl a chapel; gobeithiai weld y sefydliad yn datblygu'n ganolfan grefyddol diwylliannol i weinidogion a lleygwyr Cymru. Cyfieithodd lawer o'r Salmau, ond nis cyhoeddwyd. Undodwr ydoedd gyda 'thueddiad gref at ddyneiddiaeth'; bu'n ffyddlon yng nghapeli Undodaidd Aberystwyth a Chaerfyrddin.
Gwelir wrth ei unig lyfr Cymraeg, Helyntion hen bregethwr a'i gyfoedion (1940), seiliedig ar hanes ei dad, ei fod yn llenor da a ffotograffydd medrus. Bu'n cyfrannu'n gyson i gylchgronau Cymraeg, e.e. ' Rhyddid ' sef ei anerchiad fel llywydd y Gymdeithas Undodaidd, yn Yr Ymofynnydd, Gorffennaf 1924; ' Dosbarth Cymraeg (Syr) John Morris Jones ', yn Y Geninen, 1917; ' Pren, ei nodweddion, etc.', yn Y Genhinen, 1954. Ymddeolodd ' W.S. ' a'i briod i Landre, Aberystwyth; bu farw 17 Hydref 1964, a gwasgarwyd ei lwch ar fedd y teulu ym mynwent Brondeifi, Llanbedr Pont Steffan. Bu farw ei weddw 28 Gorffennaf 1965.
Dyddiad cyhoeddi: 1997
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.