LEWES, EVELYN ANNA (c. 1873 - 1961), awdur

Enw: Evelyn Anna Lewes
Dyddiad geni: c. 1873
Dyddiad marw: 1961
Rhiant: Florence Lewes (née Kinnear)
Rhiant: Price Lewes
Rhyw: Benyw
Galwedigaeth: awdur
Maes gweithgaredd: Llenyddiaeth ac Ysgrifennu
Awdur: Mary Auronwy James

Un o dri o blant yr uchgapten Price Lewes, swyddog cynorthwyol gyda milisia Penfro, a'i wraig Florence (ganwyd Kinnear, o Halifax, Nova Scotia); ganwyd c. 1873 yng Nghanada, ond magwyd hi yn Poyston, Hwlffordd, Penfro; cafodd addysg breifat. Tuag 1902 symudodd y teulu i Dyglyn Aeron, Ceredigion, un o hen gartrefi tylwyth y Lewesiaid a gymerasai ran flaenlaw yng Ngheredigion dros y pedair canrif ddiwethaf fel ynadon, siryfion ac aelodau seneddol. Aeth hithau i Eithinfa, Cliff Terrace, Aberystwyth i fyw c. 1928. Bu farw 4 Mawrth 1961 yn ysbyty Croesoswallt, a chladdwyd ei lludw ym mynwent Trefilan, Ceredigion.

Yr oedd yn wraig o bersonoliaeth gref. Dechreuodd ysgrifennu cerddi, erthyglau ac ystorïau i'w cyhoeddi yn 1896 pryd yr ymddangosodd cerdd yn Wales, a pharhaodd i wneud hynny hyd tuag 1940. Cyhoeddwyd ei gwaith mewn cylchgronau di-rif, gan gynnwys The Gentleman's Magazine (c. 1905), The Field and the Queen (c. 1905-14), The Bookman, Fishing Gazette, 1923-31, T. P.'s and Cassell's Weekly, 1927, Every woman's world (Toronto), a Western Home monthly (Winnipeg); hefyd yn y Western Mail, Cambrian News a phapurau eraill. Ymhlith ei llyfrau y mae Picturesque Aberayron (1899), ac A guide to Aberaeron and Aeron valley (1922). Dysgodd ysgrifennu Cymraeg a bu'n ddarllenydd diwyd (1924-33) o weithiau Lewis Glyn Cothi ar gyfer Geiriadur Prifysgol Cymru. Ceir ei chyfieithiad o ddarnau o waith Dafydd ap Gwilym yn The life and poems of Dafydd ap Gwilym (1915). Ymhlith ei llawysgrifau yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru ceir ysgrif yn Gymraeg ('O Neuaddlwyd i Madagascar'), a ' Theatres of West Wales '. Cyfrifid hi'n awdurdod ar straeon gwerin Cymru. Cyhoeddwyd ei stori ' Hywel of Claerwen ' yn nhrafodion Eisteddfod Genedlaethol Bangor 1902, ac ymddangosodd eraill yn Dream folk and fancies (1926). Y gwaith a ddaeth â hi i amlygrwydd oedd Out with the Cambrians (1934), sef ei hatgofion am wibdeithiau gyda Chymdeithas Hynafiaethau Cymru y bu hi'n aelod o'i phwyllgor am flynyddoedd lawer. Derbyniwyd hi'n aelod o Orsedd y Beirdd yn 1916 a bu'n aelod o Lys llywodraethwyr C.P.C., a Ll.G.C. o 1940 ymlaen.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1997

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.