LEWIS, IDRIS (1889 - 1952), cerddor

Enw: Idris Lewis
Dyddiad geni: 1889
Dyddiad marw: 1952
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: cerddor
Maes gweithgaredd: Cerddoriaeth
Awdur: Huw Williams

Ganwyd yn Birchgrove, Llansamlet, Morgannwg, 21 Tachwedd 1889, yn fab i löwr. Ymddiddorai mewn cerddoriaeth yn ieuanc; enillodd ysgoloriaeth i astudio yn y Coleg Cerdd Brenhinol yn Llundain yn 16 oed, a daeth i amlygrwydd fel pianydd. Ar ôl cwblhau ei addysg gerddorol aeth ar daith i'r India a'r Dwyrain Pell, 1911-12, a rhoi cyfres o ddatganiadau ar y piano yn rhai o'r prif ddinasoedd yno. Yn ddiweddarach ymsefydlodd yn Llundain, lle y bu'n gyfarwyddwr cerdd cynorthwyol Theatr Daly ac yn gyfarwyddwr cerdd theatrau Lyric a Gaiety (1915-27). Bu hefyd yn gwasanaethu fel organydd capel Cymraeg Charing Cross (MC) (1923-26), ac fel arweinydd Cymdeithas Gorawl Cymry Llundain. Yn 1927 ymunodd â chwmni British International Pictures yn Elstree, ac yn rhinwedd ei swydd fel cyfarwyddwr cerdd y cwmni hwnnw (1931-35) bu'n gyfrifol am drefnu'r gerddoriaeth ar gyfer nifer o ffilmiau adnabyddus, yn eu plith Blossom Time, gyda Richard Tauber yn gwasanaethu fel datganwr.

Un o'r rhai a swynwyd gan y ffilm hon oedd Sam Jones , a oedd ar y pryd yn gynhyrchydd rhaglenni Cymraeg gyda'r B.B.C., ac ar ôl deall mai Cymro oedd Idris Lewis llwyddodd i'w berswadio i ymuno â'r B.B.C. yng Nghaerdydd, lle y bu'n gyfarwyddwr cerdd rhanbarth Cymru (1936-52), y cyntaf i'w benodi i'r swydd honno. Bu farw yn ei gartref yn Llandaf, 15 Ebrill 1952, ac amlosgwyd ei weddillion yng Nglyntaf.

Y mae'n ffigur pwysig yn hanes cerddoriaeth y genedl, yn bennaf oherwydd ei waith arloesol yn darlledu cyngherddau cerddorfaol o Gaerdydd. Bu hefyd yn gyfrifol am drefnu cyfresi o raglenni lleisiol poblogaidd ar radio sain, yn eu plith ' Melys Lais ' a ' Cenwch im yr hen ganiadau '. Er nad oedd yn gyfansoddwr toreithiog ysgrifennodd a threfnodd amryw o weithiau derbyniol ar gyfer corau meibion, ac erys ambell unawd allan o'i osodiad o ' Alun Mabon ' (Ceiriog), a ddarlledwyd am y tro cyntaf yn 1935, yn boblogaidd ar lwyfan eisteddfod a chyngerdd. Ef yw awdur y llyfr buddiol Cerddoriaeth yng Nghymru (1945) a gyfieithiwyd i'r Gymraeg gan Enid Parry. (Brawd iddo oedd D. H. Lewis, Llanelli, awdur Cofiant J.T. Rees, ynghyd â nifer o ysgrifau ar gerddorion y genedl a gyhoeddwyd yn Y Genhinen a chylchgronau eraill).

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1997

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.