Ganwyd 29 Mehefin 1875 yn y Tŷ Newydd, Clegyr, Llanberis, Sir Gaernarfon, (Penrallt oedd enw gwreiddiol y tŷ), yn fab i William a Mary (ganwyd Hughes) Lloyd. Addysgwyd ef yn ysgol elfennol Llanberis ond ychydig iawn o gyfle a gafodd, gan i'w fam farw pan nad oedd ef ond rhyw wyth oed, ac hyd nes ei fod yn rhyw drigain oed bu'n gweithio yn y chwarel. Priododd Margaret merch John a Margaret Williams yng nghapel MC Llanrug, 9 Tachwedd 1894 a bu iddynt ddau fab a dwy ferch. Ar ôl priodi ymdrechodd i'w ddiwyllio'i hun, gan ddarllen yn helaeth a meistroli'r cynganeddion. Cyfansoddodd gannoedd o englynion a cherddi. Urddwyd ef yn fardd yn yr Eisteddfod Genedlaethol yn Llanelli yn 1903 wrth yr enw yng Ngorsedd ' Glan Rhyddallt '. Bu'n golofnydd wythnosol i'r Herald Cymraeg o 1931 hyd ei farw. Yr oedd ei ferch wedi dechrau ei cholofn dan yr enw ' Mari Lewis ' flwyddyn o'i flaen. Bu'n gohebu llawer â Chymry America ac ysgrifennodd hanes Goronwy Owen, Goronwy'r Alltud (1947). Bu farw yn Ysbyty Gallt y Sil, Caernarfon, 7 Gorffennaf 1961 a chladdwyd ef ym mynwent eglwys Llanrug ar 11 Gorffennaf.
Dyddiad cyhoeddi: 1997
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.