McGRATH, MICHAEL JOSEPH (1882 - 1961), Archesgob Caerdydd

Enw: Michael Joseph Mcgrath
Dyddiad geni: 1882
Dyddiad marw: 1961
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: Archesgob Caerdydd
Maes gweithgaredd: Crefydd
Awdur: Daniel Joseph Mullins

Ganwyd 24 Mawrth 1882 yn ninas Kilkenny, Iwerddon. Cafodd ei addysg gynnar yn ysgol y Brodyr Cristionogol yn Kilkenny, a'i addysg uwchradd yng Ngholeg Rockwell, swydd Tipperary. Yno y blodeuodd ei ddiddordeb yn yr iaith Wyddeleg ac aeth ymlaen i ennill gradd B.A. ynddi ym Mhrifysgol Genedlaethol Iwerddon. Ymhen blynyddoedd anrhydeddwyd ef gan y brifysgol honno â gradd D.Litt. Wedi graddio penderfynodd fynd yn offeiriad, ac astudio ar gyfer hynny yng Ngholeg S. Ioan, Waterford. Fe'i hord. ar 12 Gorffennaf 1908 yn esgobaeth babyddol Clifton. Treuliodd nifer o flynyddoedd yno, yn gurad yn yr eglwys gadeiriol, yn offeiriad plwyf yn Fishponds ac yn eglwys S. Nicolas, Bryste. Bregus oedd ei iechyd yn y cyfnod hwn ac yn 1918 bu raid iddo ymddeol o'i blwyf a chymryd egwyl i geisio adennill ei nerth. Oherwydd ei ddiddordeb yn yr ieithoedd Celtaidd cafodd wahoddiad yn 1921 gan yr Esgob Francis Mostyn i weithio yn esgobaeth Mynyw. Aeth yn gyntaf i dref y Fflint a symud wedyn i Fangor. Yn 1928 penodwyd ef yn offeiriad plwyf yn Aberystwyth ac yn bennaeth y coleg catholig yno. Yn ystod ei gyfnod yn Aberystwyth bu'n dilyn cyrsiau'r Athro Thomas Gwynn Jones mewn llenyddiaeth Gymraeg yng Ngholeg y Brifysgol, a datblygodd cyfeillgarwch agos rhwng y ddau a barhaodd hyd farwolaeth yr Athro. Yn 1935 penodwyd ef yn Esgob Mynyw yn olynydd i'r Esgob Vaughan a chysegrwyd ef ar 24 Medi. Ar farwolaeth yr Archesgob Mostyn, y gŵr a'i gwahoddodd i ddod i Gymru, penodwyd ef yn Archesgob Caerdydd, lle yr arhosodd weddill ei oes. Bu farw yn ysbyty Gwenffrewi yng Nghaerdydd, 28 Chwefror 1961.

Crynhoir ei agwedd tuag at Gymru a gwelir pwysigrwydd ei gyfraniad i'w bywyd yn yr adroddiad a ddanfonodd ar 7 Mawrth 1960 i Rufain mewn ateb i gais y comisiwn a oedd yn paratoi at ail Gyngor y Fatican. Wrth ateb y cwestiwn am ddyfodol yr Eglwys Gatholig yng Nghymru rhoes amlinelliad o hanes yr eglwys yn y wlad, gan gyfeirio'n arbennig at y Gwyddelod a ymsefydlodd yng Nghymru dair a phedair cenhedlaeth yn gynt ond a safasai ar gyrion y bywyd Cymreig. Yn ei farn ef y datblygiad mwyaf arwyddocaol wedi Rhyfel Byd I oedd dirywiad yr iaith Gymraeg. Er nad effeithiai hyn lawer yn uniongyrchol ar y gymuned Gatholig, yn anuniongyrchol yr oedd yn ffynhonnell perygl mawr iddi, gan y byddai diflaniad yr iaith yn tanseilio holl fywyd crefyddol y genedl ac yn arwain at ddifaterwch cyffredinol a fyddai'n esgor ar ddiffyg parch tuag at fywyd teulu, ar gynnydd mewn ysgariad, gwneud erthylu'n gyfreithiol, lleihau parch at fywyd ac eiddo, ac ymadawiad oddi wrth safonau Cristionogol ym mherthynas y ddau ryw. Er mor dreiddgar oedd ei ragwelediad o'r dyfodol, nid dyna brif arwyddocâd ei ddadansoddiad. Cyfraniad mwyaf yr Archesgob McGrath i fywyd y gymuned Gatholig yng Nghymru ac i fywyd y genedl oedd ei ddirnadaeth glir o bwysigrwydd iaith a diwylliant hanesyddol Cymru. Galluogodd lawer o'i gydgrefyddwyr i sylweddoli eu bod yn anwahanadwy, a bod eu ffyniant a'u parhad yn hanfodol i iechyd crefyddol y genedl, a hyd yn oed i oroesiad y grefydd Gristionogol yng Nghymru.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1997

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.