MORGAN, JOHN JAMES (1870 - 1954), gweinidog (MC) ac awdur

Enw: John James Morgan
Dyddiad geni: 1870
Dyddiad marw: 1954
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: gweinidog (MC) ac awdur
Maes gweithgaredd: Crefydd; Llenyddiaeth ac Ysgrifennu
Awdur: Gomer Morgan Roberts

Ganwyd ym Mawrth 1870 yng Nglynberws, Ysbyty Ystwyth, Ceredigion, mab Dafydd Morgan ('Y Diwygiwr') a Jane ei briod. Addysgwyd ef yn ysgol fwrdd Ysbyty Ystwyth; ysgol Ystradmeurig, ysgol Thomas Owens, Aberystwyth; Coleg Aberystwyth a Choleg Trefeca. Ordeiniwyd ef yn 1894, a bu'n gweinidogaethu yn y Bont-faen, Morgannwg (1893-95) a'r Wyddgrug (1895-1946). Priododd 1895, Jeanetta Thomas, Llancatal, Bro Morgannwg. Ar ôl ymddeol aeth i fyw at ei ferch yn Irby, sir Gaer, ac yno y bu farw 23 Ionawr 1954.

Ymhyfrydodd mewn llenydda ar hyd ei oes, a cheir ei gynhyrchion - o nodwedd hanesyddol - yng nghylchgronau'i enwad. Yr oedd ganddo'r ddawn i gasglu dywediadau pert a bachog a hynodion blaenoriaid a phregethwyr. Cyhoeddodd nifer o gofiannau defyddiol iawn: Hanes Dafydd Morgan a Diwygiad '59 (1906); Cofiant Edward Matthews (1922); Cofiant Evan Phillips (1930); a Hanes Daniel Owen (1936). Yn niwedd ei oes cyhoeddodd ei hunangofiant a'i atgofion, sy'n hynod o ddiddorol, yn dair o gyfrolau (1948, 1949 ac 1953) dan y teitl A welais ac a glywais.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1997

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.