NEPEAN (ganwyd BELLIS), MARY EDITH (1876 - 1960), nofelydd

Enw: Mary Edith Nepean
Dyddiad geni: 1876
Dyddiad marw: 1960
Priod: Molyneux Edward Nepean
Rhiant: Mary Bellis
Rhiant: John Bellis
Rhyw: Benyw
Galwedigaeth: nofelydd
Maes gweithgaredd: Llenyddiaeth ac Ysgrifennu
Awdur: Sally Roberts Jones

Ganwyd yn Llandudno, Caernarfon, 1876 yn ferch i John Bellis, un o gynghorwyr sir Gaernarfon a Mary ei wraig. Cafodd ei haddysg gartref, astudiodd gelfyddyd gyda Robert Fowler, ac yn ddiweddarach cafodd beth o'i gwaith ei arddangos mewn nifer o arddangosfeydd. Priododd yn 1899 Molyneux Edward Nepean, un o deulu o weision sifil uchel eu graddfa, ac aeth i Loegr i fyw, gan gymdeithasu mewn cylchoedd llenyddol yn Llundain. Yn 1932 cyhuddodd Caradoc Evans o enllib yn ei herbyn yn ei nofel Wasps (1933), a gorfododd iddo wneud newidiadau yn y llyfr cyn ei gyhoeddi. Cymerodd ran yn y bywyd cyhoeddus, gan ddod yn ' Commandant ' adran yn y Groes Goch yn swydd Caint, a theithiodd yn helaeth yn y Dwyrain Agos a'r Balcaniaid gan gymryd diddordeb arbennig ym mywyd sipsiwn Transilfania.

Cyhoeddwyd ei nofel gyntaf, Gwyneth of the Welsh Hills, yn 1917, sy'n dangos dylanwad arddull Allen Raine (Anne Adalisa Puddicombe) a Caradoc Evans. Dilynwyd hon gan 34 o nofelau rhamantaidd, ysgafn, bron i gyd gyda chymeriadau a chefndir Cymreig. Ysgrifennodd un teithlyfr, Romance and realism in the Near East (1933), ynghyd â llawer o erthyglau poblogaidd i'r wasg newyddiadurol. Bu farw ei gŵr yn 1948. Bu hithau farw 23 Mawrth 1960 a chladdwyd hi ym mynwent Y Gogarth, Llandudno.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1997

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.