Ganwyd 12 Ionawr 1877 yn y Bryn, Cwmfelinmynach, Llanwinio, Sir Gaerfyrddin, yn fab i Benjamin Nicholas (bu farw 10 Awst 1931 yn 88 mlwydd oed) a Mary Nicholas (bu farw 23 Hydref 1900 yn 56 mlynedd oed), y tad yn aelod gyda'r Annibynwyr yn Llanboidy a'r fam gyda'r Bedyddwyr yn Ramoth, Cwmfelinmynach, a'r ddau wedi eu cofnodi ar eu carreg fedd ym mynwent Ramoth fel o Flaendyffryn. Bu William Thomas, gweinidog (A) Llanboidy, yn drwm ei ddylanwad arno, ond gyda'i fam yn Ramoth yr ymaelododd. Bedyddiwyd ef yn 16 mlwydd oed gan y gweinidog D. S. Davies ('Dafis Login'), a thraddododd ei bregeth cyntaf yn Ebrill 1898. Wedi naw mis yn Ysgol yr Hen Goleg, Caerfyrddin, bu'n fyfyriwr yn y Coleg Presbyteraidd yno o 1899 hyd 1901. Ordeiniwyd ef 14 Hydref 1901 yn weinidog Moreia, Tonypandy, a gwelodd yr eglwys ieuanc yn tyfu'n achos llewyrchus ac yn cynllunio addoldy newydd iddi ei hun yn 1906. Gwelodd hefyd ysgwyd Cwm Rhondda gan Ddiwygiad 1904-05 a chynnydd y Mudiad Llafur, ac ef (fel William John a fu'n ysgrifennydd eglwys Moreia) oedd un o'r ychydig a geisiodd osgoi'r ymddieithrio a'r ysgaru a ddigwyddodd rhwng y ddau ddylanwad: am ei ymateb personol i'r sefyllfa gweler yr ysgrifau ar ' O Fwg Morgannwg ' gan ' O.K. ' y gellir yn ddiogel eu priodoli iddo yn y cyfnod Hydref 1907-Mawrth 1908 yn Y Piwritan newydd (cylchgrawn Bedyddwyr de-orllewin Cymru). Rhyddhawyd ef dros dro o'i ofalaeth yn 1915 i wasanaethu gyda'r Y.M.C.A. yn Ffrainc, ond ymhen blwyddyn derbyniodd alwad i eglwys Castle Street, Llundain, a sefydlwyd ef yno 26 Hydref, a David Lloyd George yn llywyddu'r oedfa. Bu'r blynydoedd nesaf ar lawer ystyr yn gyfnod cofiadwy yn hanes yr eglwys, e.e. adnewyddu'r addoldy yn 1924, noddi eglwysi mewn cyni yng Nghwm Rhondda o 1928 ymlaen, a chodi achosion yn y maestrefi fel Dagenham yn 1928, ond camp fawr ei weinidogaeth oedd croesawu ac ymgeleddu y lliaws ieuenctid a dyrrai i Lundain ym mlynyddoedd y dirwasgiad, ar ei air ei hun, ' bod yn gyfaill i Gymry ieuainc oddicartref ', a chyda hynny chwyddo'r eglwys erbyn 1931 i dros fil o aelodau. Bu'n amlwg yn Llundain hefyd yn y cylchoedd Cymraeg, e.e. yn llywydd Cymdeithas Sir Gaerfyrddin 1954-56. Codwyd ef yn llywydd adran Gymraeg Undeb Bedyddwyr Cymru 1952-53, a thestun ei anerchiad yn Llandudno yn 1953 oedd ' Yr Uchel Alwedigaeth '. Gwendid corff a'i gorfododd i ymddeol yn 1934 a thrachefn yn 1938, hynny ar ôl ei gymell i ailgydio yn 1937. Bu farw 10 Gorffennaf 1963 yn ei gartref yn 122 Rivermead Court, Hurlingham, ac amlosgwyd ei weddillion 13 Gorffennaf yn Golders Green. Cynhaliwyd cyrddau coffa iddo ym Moreia, Tonypandy, ac yn Castle Street 18 Gorffennaf, ac yn Ramoth, Cwmfelinmynach, 21 Gorffennaf Priododd 18 Chwefror 1936 Gertrude Thomas (ganwyd Crocker), Epsom. Bu hi farw 9 Rhagfyr 1942.
Dyddiad cyhoeddi: 1997
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.