OWEN, WILLIAM HUGH (1886 - 1957), gwas sifil

Enw: William Hugh Owen
Dyddiad geni: 1886
Dyddiad marw: 1957
Priod: Enid Strathearn Owen (née Hendrie)
Rhiant: Thomas Owen
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: gwas sifil
Maes gweithgaredd: Gwasanaethau Cyhoeddus a Chymdeithasol, Gweinyddiaeth Sifil
Awdur: Mary Auronwy James

Ganwyd 16 Chwefror 1886 yn fab i Thomas Owen, Caergybi, Môn. Ymunodd ag adran forwrol y London and North Western Railway yn 1906 cyn dod yn un o staff personol David Lloyd George a chyflawni nifer o genadaethau pwysig ar ei ran. Ar ddechrau Rhyfel Byd I ymunodd â'r Peirianwyr Brenhinol a mynd i Ganada yn 1917 a chynrychioli'r Swyddfa Ryfel yno fel cyfarwyddwr camlesi a dociau. Yr oedd yn gyfrifol am osod contractau a goruchwylio'r gwaith o wneud cychod cynorthwyol addas at waith ar y cefnfor, gyda'r glannau ac ar y camlesi, a hefyd am brynu a llogi badau ar gyfer gwneud gwaith cyffelyb. Daeth yn is-gyrnol yn 1918 ac anrhydeddwyd ef yn C.B.E. yn 1919. Wedi hynny bu'n gynrychiolydd arbennig Comptroller of the Admiralty ac yn ddiweddarach cynrychiolodd y Weinyddiaeth Longau yno. Yn 1910 chwaraeodd hoci dros Gymru yn erbyn Iwerddon. Priododd, 8 Hydref 1919, Enid Strathearn, merch Syr John Hendrie, is-lywodraethwr Talaith Ontario, a bu iddynt dair merch. Ymgartrefodd ym Montreal a bu farw 21 Chwefror 1957.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1997

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.