Ganwyd 17 Ebrill 1864 ym Mhen-y-maes, Morfa Nefyn, Caernarfon, mab James a Margaret Owen. Bu mewn swyddfa yn Lerpwl am chwe blynedd ac yno, yn 1884, y dechreuodd bregethu. Addysgwyd ef yn ysgol Clynnog, Coleg y Bala, ac yn Rhydychen (lle graddiodd yn 1892, M.A. yn 1903). Bu'n diwtor am flwyddyn yng Ngholeg y Bala. Ordeiniwyd ef yn 1892, a bu'n gweinidogaethu yn y Gerlan, Bethesda (1892-1902), Y Bowydd a'r eglwys Saesneg, Blaenau Ffestiniog (1902-09), ac Engedi, Caernarfon (1909-26). Priododd Hannah Evans, Dyffryn Nantlle; ni bu iddynt deulu. Dychwelodd i Forfa Nefyn ar ôl ymddeol; bu farw 1 Mawrth 1953 yn y Royal Infirmary, Lerpwl, a chladdwyd ef ym mynwent Nefyn.
Yr oedd yn arweinydd amlwg o'r Cyfundeb y perthynai iddo. Bu'n llywydd Sasiwn y Gogledd (1920 ac 1949), ac yn llywydd y Gymanfa Gyffredinol (1926). Traddododd y Ddarlith Davies yn 1923, ac fe'i cyhoeddwyd dan y teitl Gwybodaeth y Sanctaidd (1923). Ysgrifennodd lawer i gylchgronau'i enwad, a bu'n golofnydd wythnosol yn Y Goleuad o 1930 ymlaen dan yr enw ' Sylwedydd ', - cyhoeddwyd detholiad o ysgrifau'r golofn hon, Sylwadau sylwedydd, 1949. Cyhoeddodd hefyd y llyfrau a ganlyn: Cofiant a gweithiau David Roberts y Rhiw (1908); Rolant y teiliwr ac ysgrifau eraill (1920); Y Cyfundeb a'i neges (1935), yn Gymraeg ac yn Saesneg. Golygodd gyfrolau o bregethau John Williams, Brynsiencyn (1922 ac 1923), a Thomas Charles Williams (1928 ac 1929). Cyhoeddodd hefyd werslyfr ar deithiau'r Apostol Paul (1902), ac esboniad ar Efengyl Luc (1927 ac 1928). Yn rhinwedd ei swydd fel golygydd cyffredinol y Llyfrfa, Caernarfon, am flynyddoedd hwylusodd lawer o gyfrolau o waith awduron eraill drwy'r wasg. Yn 1950 cafodd radd D.D. er anrhydedd gan Brifysgol Cymru. Yn 1957, ar ôl ei farwolaeth, cyhoeddwyd detholiad o'i bregethau (golygwyd gan William Morris).
Dyddiad cyhoeddi: 1997
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.