Fe wnaethoch chi chwilio am *
Ganwyd ym Mangor, Caernarfon, 1 Hydref 1890, yn fab David Owen, cyfreithiwr, a'i briod Mary (ganwyd Roberts). Aeth i Ysgol Friars a Choleg Prifysgol Gogledd Cymru, Bangor (1909-14), lle y cymerodd ran mewn chwaraeon. Bu'n llywydd y Gymdeithas Lenyddol a Dadleuon, a chafodd radd B.A. dosbarth cyntaf mewn Ffrangeg yn 1912 ac M.A. yn 1914. Derbyniwyd ef i wasanaeth sifil yn yr India yn 1914 ond bu rhaid iddo ohirio mynd i Meerut i fod yn ynad cynorthwyol yno hyd ar ôl Rhyfel Byd I, pryd y gwasanaethodd gyda'r RF Artillery. Dyrchafwyd ef yn ynad dosbarth Benares yn 1924, yn swyddog gwladychu yn Bara Banki yn 1927, yn ddirprwy gomisiynydd adran Kumaon yn 1934 ac ynad dosbarth Cawnpore yn 1936. Daeth yn brif chwip y llywodraeth yng Nghynulliad Deddfwriaethol yr India (1935), a chydnabuwyd ei wasanaeth clodwiw i'r wlad trwy ei wneud yn C.I.E. yn 1938. Dychwelodd adeg Rhyfel Byd II i weithio yn y Weinyddiaeth Diogelwch Cartref (1939-44), y Weinyddiaeth Gyflenwi (1945), a'r Bwrdd Masnach (1946-52), cyn ymroi i weithgarwch dyngarol a diwylliannol. Bu'n gadeirydd y Gymdeithas Genedlaethol dros yr Epileptig, yn aelod o Lys Llywodraethwyr a Chyngor Llyfrgell Genedlaethol Cymru, ac yn drysorydd Anrhydeddus Gymdeithas y Cymmrodorion (1952-64). Yr oedd ganddo ddawn arbennig at drosi barddoniaeth Gymraeg i'r Saesneg a cheir rhai enghreifftiau o'i waith yn Traf. Cymm., yn ogystal â nifer o erthyglau gwerthfawr ganddo ar hanes gogledd Cymru. Cedwir ei adysgrifau o gofysgrifau trethi cynnar gogledd Cymru yng Ngholeg y Brifysgol ym Mangor a Llyfrgell Genedlaethol Cymru. Cyfieithodd hefyd lawer iawn o erthyglau o'r Bywgraffiadur Cymreig hyd 1940 ar gyfer y Dictionary of Welsh biography down to 1940.
Priododd yn Bombay, India, yn 1923, Dilys pumed ferch Joseph Davies Bryan, o dan BRYAN, ROBERT) a Jane (ganwyd Clayton) a bu iddynt 2 fab (bu'r hynaf farw yn faban) ac un ferch. Bu farw 4 Tachwedd 1965 yn ei gartref, 15 Ethorpe Close, Gerrards Cross, swydd Buckingham.
Dyddiad cyhoeddi: 1997
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.