OWEN, ROBERT (BOB OWEN, Croesor; 1885 - 1962), hanesydd, llyfrbryf ac achyddwr

Enw: Robert Owen
Dyddiad geni: 1885
Dyddiad marw: 1962
Priod: Nell Owen (née Jones)
Rhiant: Jane Owen
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: hanesydd, llyfrbryf ac achyddwr
Maes gweithgaredd: Hanes a Diwylliant; Llenyddiaeth ac Ysgrifennu
Awdur: Dyfed Oswald Evans

Ganwyd ym Mhen-y-parc, (Twllwenci ar lafar), Llanfrothen, Meirionnydd, 8 Mai 1885 [yn fab i Jane Owen yn ôl NLW MS 19295B ], a'i fagu gan ei nain, Ann Owen, merch i wehydd o Aberffraw, Môn. Gadawodd ysgol elfennol Llanfrothen yn 13 oed i fynd yn was bach ar fferm Plas Brondanw. Bu'n gweini ar ffermydd yn yr ardal am dair blynedd cyn cael swydd yn glerc yn chwarel Parc a Chroesor. Treuliodd 30 mlynedd yno hyd 30 Ionawr 1931 pan gaeodd y chwarel oherwydd dirwasgiad yn y fasnach lechi. Wedi cyfnod o ddwy flynedd a hanner yn ddi-waith fe'i penodwyd yn drefnydd i Gyngor Sir Gaernarfon ac yna'n ddarlithydd gyda Chymdeithas Addysg y Gweithwyr.

Y dylanwad pennaf arno'n addysgol fu troi ymysg dynion gwybodus a diwylliedig yn swyddfa'r chwarel ac yno y cydiodd ynddo yr ysfa i chwilota. Casglodd lyfrgell enfawr a ledaenai i bron bob ystafell yn ei gartref. Daeth i'r amlwg yn arbennig ar bwys ei golofn wythnosol yn y Genedl Gymreig, 'Lloffion Bob Owen', 1929-37. Cyfrannodd yn helaeth i amryw byd o newyddiaduron a chryn ugain o wahanol gylchgronau. Bu'n fuddugol hefyd ar draethodau swmpus yn yr Eisteddfod Genedlaethol gan gynnwys un o tuag 800 o dudalennau ffwlsgap mewn ysgrifen fân neu wedi ei deipio'n glòs ar ymfudiadau o Gymru i Daleithiau Unedig America rhwng 1760 ac 1860, a 'Diwydiannau coll - ardal y ddwy afon, Dwyryd a Glaslyn', a gyhoeddwyd yn gyfrol yn 1943.

Ystyriai ysgolheigion ef yn chilotwr gwyddonol, yn achyddwr o bwys ac yn awdurdod ar hanes Cymry America. Dyfernwyd iddo radd M.A. er anrhydedd gan Brifysgol Cymru (yr ieuengaf erioed yn 47 oed) a'r O.B.E. yn ddiweddarach am ei gyfraniad i hanes a llenyddiaeth Cymru.

Priododd ym mis Mehefin 1923 â Nel Jones, merch o Gaeathro a gwnaethant eu cartref yn Ael-y-bryn, Croesor. Ganwyd iddynt ddwy ferch a mab. Yr oedd yn ddarlithydd poblogaidd ryfeddol ymhob rhan o Gymru a thros y ffin, mewn cymdeithasau Cymraeg. Oherwydd ei ddiddordeb mewn pobl a'u hachau tueddai i godi ysgyfarnogod a mynd ar eu trywydd wrth ddarlithio. Fe'i cyhuddid hefyd o 'ddryllio delwau' oherwydd rhai sylwadau a wnâi am bobl fel Mary Jones o'r Bala a John Elias o Fôn. Daliai ef, fodd bynnag, iddo godi llawer mwy o ddelwau nag a ddrylliodd.

Yr oedd yn bersonoliaeth liwgar a thanllyd eithriadol, yn rhyferthwy o fywyd, ac yn sgîl ei hynodrwydd mewn sawl cyfeiriad fe dyfodd yn gymeriad chwedlonol yn ei oes ei hun. Bu farw 30 Ebrill 1962 a'i gladdu ym Mynwent Newydd Llanfrothen.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1997

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.