Ganwyd yn hanner cyntaf 1885, mab ieuengaf David Phillips, rheithor Radur, Morgannwg. Yr oedd yn frawd i J. Leoline Phillips, Deon Mynwy, a D. Rupert Phillips, a fu'n gadeirydd mainc ynadon Cibwr. Cafodd yrfa addysgol ddisglair yng Ngholeg Crist, Aberhonddu, lle'r enillodd ysgoloriaeth yn y clasuron i Goleg Iesu, Rhydychen. Enillodd glod iddo'i hunan ac i'r ysgol yn ogystal ar y cae rygbi. Yn Rhydychen cafodd ddosbarth cyntaf yn 'Moderations' a graddio yn 1911. Bu'n athro ysgol yn Fonhill (East Grinstead), Rossall University College School (Llundain) ac yn Charterhouse. O 1915 hyd 1919 bu'n swyddog yn y fyddin gyda'r Royal Fusiliers a'r R.A.S.C. Yn 1923 apwyntiwyd ef yn Rheithor y Coleg Brenhinol ym Mauritius ac yn Bennaeth Adran Addysg Uwchradd yr ynys. Yma gweithiai fel aelod o Wasanaeth Sifil y Trefedigaethau. Yn 1927 cynrychiolodd yr ynys yn yr Imperial Education Conference yn Llundain lle y cyflwynodd bapur, ar ' Teaching English in Schools '. Yr oedd hefyd yn arholwr i'r Gwasanaeth Sifil ac i Fwrdd Arholi Ysgolion, Prifysgol Caergrawnt. Ym Mauritius yr oedd hefyd yn amlwg ar y maes chwarae gan ddangos diddordeb arbennig mewn criced, hoci a phêl-droed.
Apwyntiwyd ef (o blith 45 o ymgeiswyr) yn brifathro Ysgol Rhuthun yn 1930. Bu'n fawr ei ddiddordeb mewn rygbi a sefydlwyd eisoes yn yr ysgol gan ei ragflaenydd, Edwin William Lovegrove, a llwyddodd i sicrhau bod gemau rygbi pwysig yn cael eu chwarae ar gae'r ysgol. Erys rhywfaint o ddirgelwch ynglŷn á'i ymddiswyddiad o'r brifathrawiaeth yn 1935. Priodolwyd hyn i afiechyd. Symudodd i Lundain lle y bu mewn swydd addysgol ac yn ddiweddarach yn gyfarwyddwr nifer o gwmnïau preifat.
Priododd Jessie Whayman, merch A.E.P. Rae a bu iddynt un mab. Ymgartrefodd yn Chorleywood, swydd Hertford, ond bu farw yn Sanatoriwm Holloway, Virginia Water, 3 Mawrth 1953.
Dyddiad cyhoeddi: 1997
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.