Ganwyd 20 Mai 1898, yn unig fab Uchgapten Grismond Philipps, Cwmgwili, Sir Gaerfyrddin. Daeth yn is-gapten yn y Grenadier Guards yn 1917, dyrchafwyd ef yn gapten yn 1925, ac ymddeolodd yn 1933. Gwasanaethodd drwy gydol Rhyfel Byd II, gan fod yn is-gyrnol yn gyfrifol am 4ydd Bataliwn y Gatrawd Gymreig (Byddin Diriogaethol); yr oedd yn gyrnol mygedol yn y Gatrawd Gymreig (Byddin Diriogaethol) o 1960 hyd 1964. Penodwyd ef yn ddirprwy-lifftenant sir Gaerfyrddin yn 1935, yn ynad heddwch yn 1938, ac yn gynghorwr sir yn 1946. Ar ôl gwasanaethu fel is-lifftenant o 1936 hyd 1954, daeth yn Arglwydd Lifftenant sir Gaerfyrddin yn 1954 a chadwodd y swydd weddill ei oes. Bu'n aelod o Lys y Llywodraethwyr a Chyngor Llyfrgell Genedlaethol Cymru, ac yn aelod o Gyngor Amgueddfa Genedlaethol Cymru, 1945-52. Ef oedd cadeirydd Cyngor Adeiladau Hanesyddol Cymru 1955-67, a bu hefyd yn gadeirydd pwyllgor Cymreig Teledu Cymru a'r Gorllewin (T.W.W.). Yr oedd yn ŵr doeth a llawn cydymdeimlad. Ac yntau'n disgyn o deulu Phillips, Cwmgwili, un o hen deuluoedd Sir Gaerfyrddin, cymerai ddiddordeb dwfn yn hanes a hynfiaethau Cymru, ac yn arbennig yn hanes hen deuluoedd a chartrefi ei sir enedigol. Gwnaed ef yn farchog yn 1953.
Priododd y Fonesig Marjorie Joan Mary Wentworth-FitzWilliam, ail ferch y 7fed Iarll FitzWilliam yn 1925, ond ysgarwyd hwy yn 1949. Bu farw 8 Mai 1967 a'i oroesi gan ei unig fab.
Dyddiad cyhoeddi: 1997
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.