Mab John Rees a'i briod Magdalen (ganwyd Evans), Glasgow House, Aberaeron, Ceredigion, a fedyddiwyd ar 22 Gorffennaf 1887. Addysgwyd ef yn Aberaeron; Pencader; Ysgol yr Hen Goleg, Caerfyrddin (c. 1909-10); ac Athrofa Aberhonddu (1911-15), gan fynychu cwrs gradd o dan ei nawdd yng ngholegau Prifysgol Cymru yn Aberystwyth (1911) a Chaerdydd (1912). Gwasanaethodd Ebeneser, Cefncoedycymer (1915-22), lle yr ordeiniwyd ef; Hermon, Treorci (1923-27) a Soar, Blaendulais (1927-45), cyn ei benodi'n ysgrifennydd Cyngor y Cristionogion a'r Iddewon (1945-63). Yr oedd yn bregethwr poblogaidd iawn a ddewisodd weithio yng Nghymru yn hytrach na derbyn galwad i wasanaethu yn Efrog Newydd, T.U.A., c. 1922, ac yn Radnor Walk, Llundain, yn 1926. Anerchodd Gyfundeb De Morgannwg o'r gadair yn 1943 a darlledodd sgyrsiau radio c. 1932 ymlaen.
Yn ei ddyddiau cynnar daeth yn adnabyddus fel awdur straeon byrion. Enillodd dair coron ac 16 o gadeiriau mewn eisteddfodau lleol a thaleithiol, ac 28 gwobr gyntaf yn yr Eisteddfod Genedlaethol, yn bennaf am draethodau a bywgraffiadau, ond gydag amser tagwyd ei ddawn lenyddol gan ysfa fanylder, fel yn ei ysgrif ar ' Hanes Cymdeithas yr Iaith Gymraeg ' yn 1952. Bu ei enw'n hysbys yn y wasg am dros 50 mlynedd; gweler Glyn L. Jones, Llyfryddiaeth Ceredigion 1600-1964 a'r Atodiad am restr o'i ysgrifau yn Y Dysgedydd, Cymru, Genhinen, Ymofynnydd a chylchgronau eraill. At y llyfryddiaeth gellir ychwanegu ei ddrama un act, ' Y Canfasiwr ', yn Y Ford Gron, cyf. 5, rhif 1, dan y ffugenw J.C.M. Evans, a The history of Ynysgau Church, Merthyr Tydfil (c. 1958). Yr oedd yn hanesydd manwl a lloffwr di-ail. Gadawodd ar ei ôl tua 50 cyfrol wedi eu teipio'n ddifefl a'u rhwymo'n ddestlus ganddo ef ei hun (NLW MSS 18628-18865 ; NLW MS 18866E llythyron ato). Cynhwysant gasgliadau o emynau, hanes emynwyr, beirdd, pregethwyr (yn arbennig gweinidogion (A) De Morgannwg hyd 1939); a straeon, hanes ac enwogion dyffryn Aeron, yn enwedig Ysgol Neuadd-lwyd. Lluniodd hefyd fynegeion i'r Beirniad a Geiriadur bywgraffyddol Josiah T. Jones (1867).
Priododd, Ionawr 1924, ag Annie Owen, Dyffryn, Rhydlewis, Ceredigion, y bu galw mawr am ei gwasanaeth yn yr eglwysi, a bu iddynt fab. Bu farw 17 Mehefin 1963.
Dyddiad cyhoeddi: 1997
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.