Ganwyd yn Dursley, swydd Caerloyw, 17 Awst 1873, yn fab i Arthur de Cardonnel, 6ed Barwn, a Selina Lascelles (o Ieirll Harewood). Addysgwyd ef yn Eton ac Eglwys Crist, Rhydychen. Dychwelodd i Gastell Dinefwr yn 1898 pan briododd â'r Fonesig Margaret Child-Villiers, merch hynaf Iarll Jersey. Ni rwystrodd gofal yr ystad ef rhag gwasanaethu'r Llywodraeth fel ysgrifennydd preifat i Ysgrifennydd Gwladol yr India (1899-1903) ac i Brif Arglwydd y Morlys (1903-05). Bu'n A.S. (C) Brighton a Hove 1910-11 (ond ymddeolodd pan gafodd ei ddyrchafu i Dy'r Arglwyddi). Cynorthwyodd y Weinyddiaeth Arfau Rhyfel (Munitions), 1916-18; yr oedd yn Y.H., cynghorydd sir Gaerfyrddin 1919-35, cadeirydd y Land Union, 1920-37 ac yn Arglwydd Raglaw sir Gaerfyrddin, 1938-48. Effeithiodd y dirwasgiad yn drwm ar ystadau Dinefwr a Mynachlog Nedd, y naill a'r llall ohonynt yn ganolfannau glo a dur, a chofir teulu Dinefwr am ei elusengarwch, ac am gynnig gwaith a chymorth i'r tenantiaid a'r bobl leol. Yn 1939 cynigiwyd castell Dinefwr i'r Swyddfa Ryfel at ddefnydd y fyddin ac o ganlyniad arbedwyd ef rhag y dinistr a ddaeth i ran llawer o blasau eraill. Er i'r fyddin adael yr ystad wedi'r rhyfel, marweiddio a dirywio a wnaeth Dinefwr oherwydd llesgedd cynyddol y barwn. Yr oedd ef yn ymwybodol iawn o'i etifeddiaeth Gymreig. Ef a gludodd y fodrwy pan arwisgwyd Edward yn Dywysog Cymru yn 1911, ac yn 1916 ailfabwysiadodd orgraff Gymraeg ei enw, Rhys, trwy drwydded brenhinol. Cyhoeddodd hanes ei deulu a'i ystad yn Trees at Dynevor (1934) a History of the two castles of Dynevor (1935); bu'n gohebu â Syr Cyril Fox ynglyn â Newton House (castell Dinefwr) a gofidiai am barhad gyr hynafol y parc o wartheg gwyllt gwyn. Bu farw 8 Mehefin 1956 a chladdwyd ef yn eglwys Llandyfeisant ym Mharc Dinefwr.
RHYS, CHARLES ARTHYR URYAN, 8fed Barwn Dinefwr (1899 - 1962) Diwydiant a BusnesPerchnogaeth TirMilwrolNatur ac AmaethyddiaethGwleidyddiaeth a Mudiadau Gwleidyddol
oedd y mab hynaf; ganwyd 21 Medi 1899. Addysgwyd ef yn Eton a Choleg Milwrol Brenhinol Sandhurst. Bu'n gapten yn y Grenadier Guards (Reserve of Officers), a gwasanaethodd yn y British Expeditionary Force yn Rwsia 1919. Derbyniodd y M.C. a'i ethol i Urdd S. Ann yn Rwsia. Bu'n A.S. (C) rhanbarth Essex a Romford 1923-29. Daeth yn ysgrifennydd seneddol i Ysgrifennydd Cyllidol y Swyddfa Ryfel (1924) ac i Is-ysgrifennydd Gwladol y Trefedigaethau (1926). Dyrchafwyd ef yn ysgrifennydd seneddol i'r Prifweinidog, Stanley Baldwin, o 1927 hyd nes iddo golli ei sedd. Yn ystod yr 1920au a'r 1930au aeth ystad Dinefwr â mwy-fwy o'i amser, a chymerodd oddi ar ei dad ofal ystad Mynachlog Nedd. Yr oedd ganddo gysylltiad agos â diwydiant trwm ac yntau'n gyfarwyddwr gwaith alcam Richard Thomas a Baldwin ar yr ystad yn Jersey Marine. 1931-35 yr oedd yn A.S. (C) Guildford. Yn ystod Rhyfel Byd II gwasanaethodd y Reserve of Guards a bu'n ymgeisydd C. aflwyddiannus dros Ogledd Islington yn etholiad 1945. Cymerai ddiddordeb mewn ffermio ac yn enwedig mewn tyfu coed (yn 1954 yr oedd yn aelod o'r Departmental Committee on Home Grown Timber). Cychwynnodd raglen o blannu a chynaeafu conwydd ar ystad Dinefwr. Ar ôl y rhyfel darbwyllodd ei dad i ddod â'r cyflenwad trydan cyhoeddus i Ddinefwr, ac yn yr 1950au cychwynnodd adnewyddu'n helaeth Gastell Dinefwr ac ad-drefnu'n rhesymegol gyllid yr ystad a olygai orfod gwerthu rhannau ohoni. Yr oedd y diwygiadau'n fwy angenrheidiol fyth ar ôl marwolaeth ei dad oherwydd y dreth marwolaeth yr oedd yn rhaid ei thalu, ond bu Charles farw cyn cyflawni ei gynlluniau. Bu'n llywodraethwr Amgueddfa Genedlaethol Cymru, llywydd Coleg Prifysgol De Cymru ac yn aelod o'r Pwyllgor Ymgynghorol Cymreig ar Hedfan Sifil. Priododd, yn 1934, â Hope Mary Woodbine Soames a bu iddynt un mab. Bu farw 15 Rhagfyr 1962.
Dyddiad cyhoeddi: 1997
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.