Ganwyd 12 Chwefror 1880 yn fab i Thomas ac Esther Rees, Pen-y-bryn, Llangyfelach, Morgannwg. Aeth ef a'i ddau frawd - M.T. Rees, Meinciau a D.H. Rees, Cyffordd Llandudno - i'r weinidogaeth. Perthynai ei dad i Morgan Rees a fu'n gyfrwng i godi Capel Salem, Llangyfelach yn 1777, tra oedd ei fam o linach Moses Williams, Llandyfân. Aeth o'r ysgol i weithio mewn siop fwydydd yn Abergwynfi ond anogwyd ef i fynd i'r weinidogaeth, felly aeth i Ysgol y Gwynfryn, Rhydaman, yn 1901 a Choleg y Bedyddwyr, Bangor (1903-06) pryd y daeth o dan ddylanwad nerthol y diwygiad. Bu'n weinidog ar eglwysi Horeb, Maenclochog, a Smyrna, Cas-mael, Penfro (1906-25), a Dinas Noddfa, Glandŵr, Abertawe (1925-47). Ymddeolodd i'r Gelli, Rhondda.
Ymddengys iddo ddechrau ymddiddori yn hanes ei enwad pan oedd tua hanner cant oed. Dros y 30 mlynedd ar ôl cyhoeddi yn Seren Gomer (1934-35) ' Hanes dechreuad y Bedyddwyr yng Nglandŵr, Abertawe ” cafwyd llif cyson o erthyglau ganddo yn Seren Cymru, Trafodion Cymdeithas Hanes Bedyddwyr Cymru, a Seren Gomer, gyda cholofn ' Cronicl yr eglwysi '; yn ymddangos yn gyson yn y cylchgrawn olaf o 1954 hyd 1966 pan gafodd ei daro gan y parlys mud. Ysgrifennodd erthyglau i'r Bywgraffiadur Cymreig hefyd. Dyfarnwyd gwobr iddo am waith ar 'Arweinwyr cymdeithasol Bedyddwyr Cymru' ac un arall am draethawd maith ar 'Fywyd a gwaith James Spinther James' (NLW MS 12603D ) yn 1938. Comisiynwyd ef i ysgrifennu hanes Coleg y Bedyddwyr yn Llangollen a Bangor; a hanes y Cymry a hyfforddwyd yng Ngholeg Bedyddwyr Bryste. Cyhoeddodd A brief history of the Baptists in Wales (1956), a Penodau yn Hanes y Bedyddwyr Cymreig, 1649-1949 (1949), cyfrol sy'n ffynhonnell werthfawr a dibynadwy o hanes yr enwad. Bu'n awdur neu olygydd hanes tua 50 o eglwysi, gan gynnwys dwsin a mwy o gyfrolau safonol megis Hanes Seion, Treforus, 1845-1945, a'r olaf a wnaeth, sef hanes Noddfa, Treorci, lle'r oedd yn aelod.
Priododd (1), yn 1910, â Bessie Gwen Morris (bu farw 6 Mawrth 1960), Treorci; a (2), 1961, ag Annie Lydia Williams (bu farw 19 Gorffennaf 1965), gweddw David Pryse Williams, gweinidog (B), Treherbert. Bu farw 22 Hydref 1967 yn ei gartref, Y Wenallt, 14 Stryd Bute, Treherbert.
Dyddiad cyhoeddi: 1997
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.