RHYS-WILLIAMS, Syr, RHYS (1865-1955), BARWNIG cyntaf creadigaeth 1918 a barnwr

Enw: Rhys Rhys-williams
Dyddiad geni: 1865
Dyddiad marw: 1955
Priod: Juliet Evangeline Rhys-Williams (née Glyn)
Rhiant: Emma E. Williams (née Williams)
Rhiant: Gwilym Williams
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: BARWNIG cyntaf creadigaeth 1918 a barnwr
Maes gweithgaredd: Perchnogaeth Tir; Cyfraith; Milwrol; Teuluoedd Brenhinol a Bonheddig
Awdur: Mary Auronwy James

Ganwyd 20 Hydref 1865 yn fab hynaf i'r barnwr Gwilym Williams a'i wraig Emma (ganwyd Williams), Meisgyn, Pont-y-clun, Morgannwg. Aeth i Eton yn 1880 a Choleg Oriel, Rhydychen, a'i dderbyn yn fargyfreithiwr yn y Deml Fewnol yn 1890 Gweithiodd am gyfnod ar gylchdaith De Cymru gan ddilyn ei dad fel cadeirydd sesiwn chwarter sir Forgannwg yn 1906, swydd a lanwyd ganddynt am dros hanner can mlynedd. Dyrchafwyd ef yn farnwr yn 1913. Ymunodd â'r Grenadier Guards ar ddechrau Rhyfel Byd I gan symud i'r Gwarchodlu Cymreig pan ffurfiwyd y gatrawd honno yn 1915. Cynlluniodd ddyfais i rwystro bomiau rhag ffrwydro'n anfwriadol a chlwyfo'r milwyr â'u cludai, ond clwyfwyd ef ei hun ddwywaith a'i enwi ddwywaith mewn cadlythyrau, gan dderbyn D.S.O. yn 1915 a thlws Urdd S. Vladimir gan Rwsia yn 1916 am ei wrhydri. Gweithiodd yn y Swyddfa Ryfel yn hanner olaf 1917 ac wedyn am flwyddyn yn Swyddfa'r Llynges. Bu'n aelod seneddol dros Banbury (1918-22) fel Clymbleidiwr Rhyddfrydol. Yn ystod ei gyfnod byr fel ysgrifennydd seneddol i'r Gweinidog Trafnidiaeth, Syr Eric Geddes, lluniodd fesur i unoli'r rheilffyrdd yn bum brif grwp. Yn 1922 gwnaed ef yn Recordydd Caerdydd (hyd 1930). Arno ef a'r prif gwnstabl Lionel Lindsay y disgynnodd y dasg o reoli'r heddlu yn ystod cyfnodau anodd streic hir y glowyr a'r streic gyffredinol yn 1926. Yr oedd yn gyfarwyddwr nifer o gwmnïau a threuliodd lawer o'i amser yn datblygu ei eiddo yn y Rhondda, lle y gweithiodd yn ddygn i geisio lleddfu effaith diweithdra. Priododd, 24 Chwefror 1921, a bu iddo ef a'i wraig ddau fab a dwy ferch ond lladdwyd yr etifedd yn Rhyfel Byd II a bu yntau farw 29 Ionawr 1955. Yn 1938 yr ychwanegodd Rhys at ei gyfenw.

Ei wraig oedd

JULIET EVANGELINE RHYS-WILLIAMS (1898 - 1964), awdures

Ganwyd yn Eastbourne 17 Rhagfyr 1898 yn ferch i Clayton Glyn a'i wraig, y nofelydd Elinor Glyn. Gadawodd Juliet yr ysgol yn 1914 i ymuno â'r Fintai Cymorth Gwirfoddol (Voluntary Aid Detachment), gan ddod yn ysgrifennydd i Rhys Williams yn 1919. Yn y 1930au gwnaeth waith gwerthfawr gyda'r gwasanaethau mamaeth a budd plant yn ne Cymru ac yn ddiweddarach bu'n gadeirydd Corfforaeth Datblygu Cwmbrân (1955-60). Derbyniodd D.B.E. am y rhan a gymerodd mewn darparu Deddf Bydwragedd 1936. Er iddi fod yn ymgeisydd Rhyddfrydol aflwyddiannus mewn dau etholiad, gwasanaethodd y blaid fel cadeirydd y Pwyllgor Cyhoeddiadau a Hysbysebu (1944-46). Yr oedd o blaid undod ewropeaidd, gan fod yn ysgrifennydd ac aelod blaenllaw o'r Cynghrair Ewropeaidd er Cydweithrediad Economaidd. Fel cadeirydd y National Birthday Trust Fund bu'n weithgar am flynyddoedd lawer yn trefnu ymchwil meddygol a arweiniodd at gyhoeddi Perinatal Mortality Survey Report (1963). Ymhlith ei llyfrau mwyaf adnabyddus y mae Something to look forward to (1943) a amlinellai fodd i drefnu budd cymdeithasol, a Taxation and incentive (1952). Bu hi farw 18 Medi 1964.

Awdur

Ffynonellau

Dyddiad cyhoeddi: 1997

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.