Ganwyd yn Nhrecynon, Aberdâr, mab David Williams ('Alaw Goch') ac Ann, chwaer William Morgan (1819 - 1878). Cafodd ei addysg yn ysgol ramadeg y Bont-faen, y Normal College, Abertawe, ac yn Ffrainc. Derbyniwyd ef yn fargyfreithiwr (o'r Inner Temple) yn 1863, a'r un flwyddyn, ar farw ei dad, daeth yn dirfeddiannwr cyfoethog fel perchennog stad Miscyn, Sir Forgannwg, a'i mwynau. Wedi i apêl gael ei gwneuthur yn Nhŷ'r Cyffredin o blaid dewis barnwyr dwyieithog yng Nghymru, dewiswyd Gwilym Williams gan yr Ysgrifennydd Cartref yn ynad cyflog Pontypridd a'r Rhondda 1872, ardal anodd i ynad weithredu ynddi ar y pryd gan fod y boblogaeth yn cynyddu mor gyflym. Dywedwyd amdano yr adeg honno ei fod ' yn ddychryn i ddrwgweithredwyr … ' Yn 1884 dewiswyd ef yn farnwr llysoedd barn sirol (cylchdaith canolbarth Cymru), a'i ddyrchafu, 1885, yn farnwr llysoedd barn sirol Morgannwg, swydd a ddaliodd hyd ei farwolaeth, 25 Mawrth 1906. Bu hefyd yn gadeirydd sesiwn chwarter Sir Forgannwg o 3 Gorffennaf 1894 hyd flwyddyn ei farw. Fel ei dad yr oedd yn Gymro brwd a gwladgarol ac yn eisteddfodwr pybyr, a byddai'n llywyddu cyfarfodydd Cymmrodorion yn ardaloedd gweithfaol Deheudir Cymru, ac yn darlithio iddynt yn fynych (yn Gymraeg ac yn Saesneg). Yr oedd yn llywydd ac yn feirniad yn eisteddfod genedlaethol Pontypridd, 1893, a cheir ei hanes (yn Gen., Hydref 1919) yn gorfod gorchymyn i ' Gwilym Cowlyd ' adael y llwyfan am ei fod yn gwrthod cydweld â'r ddau feirniad arall ar y cwestiwn pwy oedd orau yng nghystadleuaeth yr awdl. Ysgrifennai i Cymru (O.M.E.) a'r Geninen a chyhoeddodd waith ei dad (dan olygiaeth ' Dafydd Morganwg ') o dan y teitl, Gwaith Barddonol Alaw Goch, 1903. Priododd, 1863, ag Emma E. (bu farw 12 Awst 1922), merch William Williams, Aberpergwm; bu iddynt dri mab ac un ferch.
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.