Ganwyd 3 Gorffennaf 1819 yng Nghefn-coed-cymer, gerllaw Merthyr Tydfil. Yr oedd ei fam yn nith i'r Dr. George Lewis. Symudodd y rhieni i Aberdâr pan oedd y plant yn ieuanc. Daeth y mab yn flaenllaw yng nghylchoedd Methodistaidd Aberdâr a'r cylch. Yr oedd yn gyfeillgar â John Roberts ('Ieuan Gwyllt'), a ddaeth i'r ardal i olygu Y Gwladgarwr, 1858; iddynt hwy, yn anad neb, y mae'r clod am sefydlu y 'gymanfa ganu' (1859), sefydliad a ledodd trwy Gymru yn fuan wedi hynny. Priododd Mary, chwaer Noah Morgan Jones ('Cymro Gwyllt'). Daeth Ann, ei chwaer, yn wraig David Williams ('Alaw Goch'). Bu farw 7 Medi 1878 a chladdwyd yng nghladdfa Aberdâr.
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.