Ganwyd 12 Gorffennaf 1809 yn Llwyn Drain, plwyf Ystradowen, Sir Forgannwg. Tua'r flwyddyn 1821 symudodd ei rieni i Aberdâr a bu'r mab yn dilyn galwedigaeth ei dad, sef llifiwr coed, am beth amser. Ymhen ychydig amser, fodd bynnag, aeth David Williams i fyd y glo, a thrwy ei ddycnwch, ei allu, a'i ddyfalbarhad cyrhaeddodd i safle o bwys ym myd y diwydiant glo yn Neheudir Cymru. Yn Ynyscynon, Cwmbach, y bu ei gynnig cyntaf at ddyfod yn berchennog gwaith glo; yno, gyda Lewis Lewis, Cefn Coed, dechreuodd gloddio pwll glo yn 1847, ar brydles (48 mlynedd) a oedd wedi ei dyddio 31 Rhagfyr 1844 (N.L.W. Ewenny MS. 374.) Rhoes Lewis y gorau i'r gwaith eithir parhaodd Williams a llwyddo. Yn fuan wedyn agorodd bwll arall yn Nhreaman gan prydles gan Crawshay Bailey, a roes gymorth mawr iddo; daeth y pwll hwn i gael ei enwi yn Williams's Pit. Yn ddiweddarach cloddiodd y ' Deep Duffryn Colliery ' yn Aberpennar, ac wedi iddo ddechrau codi gwerthodd y pwll i John Nixon am £42,000. Gyda'r arian a gafodd cloddiodd bwll yng Nghwmdâr, 1853, ac yna, ar ôl dechrau cael y glo, gwerthodd y pwll hwn hefyd. Trwy hyn daeth yn gyfoethog a phrynodd diroedd yn Llanwynno (gweler Plwyf Llanwynno), Trealaw yn nyffryn Rhondda Fawr - sylwer ar yr enw - ac yn Miskin Manor.
Serch iddo ddyfod yn gyfoethog parhaodd, ' Alaw Goch ' yn glos ei gyswllt â'r dosbarth gweithiol; mynychai eisteddfodau lleol y werin gan lywyddu ynddynt. Prydyddai ei hunan a daeth yn boblogaidd gan gael ei hoffi gan bawb. Rhoes lawer o gymorth ariannol i'r mudiad i gynnal yr eisteddfod genedlaethol bob yn ail flwyddyn â'i gilydd yng Ngogledd ac yn Neheudir Cymru (D. M. Richards, Rhestr Eisteddfodau, xxv-xxvii). Cyflwynwyd iddo, yn y Temperance Hall, Aberdâr, 15 Ionawr, 1862, dysteb genedlaethol oherwydd ei gymorth i fudiad yr eisteddfodau a'i wladgarwch. Yr oedd dyled pobl Aberdâr yn fawr iddo am yr help nodedig a roddwyd iddynt ganddo adeg yr eisteddfod genedlaethol a gynhaliwyd yno yn 1861 yn enwedig pan chwythwyd i lawr (gan storm) y pafiliwn a godasid ar gyfer yr eisteddfod.
Priododd ' Alaw Goch,' 3 Awst 1837, yn eglwys S. Ioan, Aberdâr, ag Ann Morgan, chwaer William Morgan (1819 - 1878), a bu eu cartref ar y cychwyn, sef Ynyscynon, Aberdâr, yn gyrchfan beirdd a llenorion. Yno y ganwyd eu mab, y barnwr Gwilym Williams. Bu farw ym Mhenybont-ar-Ogwr, 28 Chwefror 1863, a chladdwyd ef yng nghladdfa gyhoeddus Aberdâr.
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.