Ganwyd yn Nantyffyllon, Maesteg, Morgannwg, 6 Mehefin 1879, mab William a Martha Richards. Fe'i haddysgwyd yn Ysgol yr Hen Goleg, Caerfyrddin, Coleg Presbyteraidd Caerfyrddin (1902-05, 1909-12), Coleg y Brifysgol, Caerdydd (1905-09); enillodd Ysgoloriaeth Hibbert i astudio yng Nghaerdydd lle graddiodd gydag anrhydedd yn Hebraeg ac ysgoloriaeth Berman i gwblhau gradd B.D. yng Nghaerfyrddin. Yn 1912 ordeiniwyd ef yn weinidog heb ofal eglwys yn Saron, Nantyffyllon, ac yn y flwyddyn honno aeth yn athro i Ysgol yr Hen Goleg, wedi hynny'n brifathro yn olynydd i Joseph Harry. Ym Mehefin 1916 aeth allan i Ffrainc dan nawdd yr Y.M.C.A., dychwelodd i Gaerfyrddin Hydref 1917 i ymgymryd â swydd athro yn yr ysgol ramadeg. Yn 1919 ailagorwyd Ysgol yr Hen Goleg (fe'i caewyd am gyfnod yn ystod Rhyfel Byd I) dan yr enw Coleg Myrddin, ac ef oedd y prifathro hyd flwyddyn cau'r coleg yn 1946. Yn ychwanegol at ei waith yn y coleg bu hefyd yn weinidog eglwys Annibynnol Saesneg Burry Port (1919-21), Nebo, Llanpumsaint (1921-31), Elim, Ffynnon-ddrain, Caerfyrddin (1931-54). Yr oedd yn athro medrus, hyddysg yn y clasuron a bu ' Ysgol Glyndwr ' fel y'i gelwid yn gyfrwng i baratoi rhai cannoedd o fechgyn o enwadau gwahanol i sicrhau mynediad i'r colegau diwinyddol, heblaw llawer o rai eraill a hyfforddwyd yn y pynciau masnachol i'w cymhwyso ar gyfer swyddi seciwlar. Gellid cyfrif Coleg Myrddin yr olaf o hil yr hen academïau Annibynnol bychain. Bu'n gadarn ei safiad o blaid dirwest ac achos heddwch yn nhref Caerfyrddin; bu cryn ddadlau yn y wasg leol a chenedlaethol pan wrthwynebodd y gornestau paffio a gynhelid yn y dref yn nhridegau'r ganrif. Anerchodd gyfarfod y bobl ieuainc yn Undeb yr Annibynwyr, Llandeilo, 1933, ar y testun, ' Dirwest yng ngoleuni'r Testament Newydd '; cyfrannodd erthyglau i'r Tyst ar ei daith yn Ne Affrig (gweler rhifynnau 29 Hydref, 5 & 12 Tachwedd, 1936) a phregeth i'r gyfrol Ffordd Tangnefedd (tt. 93-101). Priododd, 1913, Elizabeth Parry, Caerfyrddin. Bu farw 17 Gorffennaf 1956.
Dyddiad cyhoeddi: 1997
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.