ROBERTS, ROBERT ALUN (1894 - 1969), Athro Llysieueg amaeth Coleg y Brifysgol Bangor, a naturiaethwr

Enw: Robert Alun Roberts
Dyddiad geni: 1894
Dyddiad marw: 1969
Priod: Jennie Roberts (née Williams)
Rhiant: Jane Roberts (née Thomas)
Rhiant: Robert Roberts
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: Athro Llysieueg amaeth Coleg y Brifysgol Bangor, a naturiaethwr
Maes gweithgaredd: Addysg; Natur ac Amaethyddiaeth; Gwyddoniaeth a Mathemateg
Awdur: Melfyn Richard Williams

Ganwyd 10 Mawrth 1894 yng Nglan Gors, Tan-yr-allt, Dyffryn Nantlle, Caern., yn fab i Robert Roberts (brawd Owen Roberts, tad y Dr. Kate Roberts ) a Jane Thomas. Derbyniodd ei addysg gynradd yn ysgol Nebo a thrwy ysgoloriaeth enillodd le yn ysgol sir Penygroes. Am gyfnod, bu'n ddisgybl-athro cyn sicrhau lle iddo'i hun yng Ngholeg y Brifysgol, Bangor, yn 1911. Enillodd radd B.Sc. gydag anrhydedd yn 1915 a chwblhaodd ei radd Ph.D. yn 1927.

Ei swydd gyntaf oedd athro gwyddoniaeth yn ysgol Botwnnog (1915-17). Gwasanaethodd gyda'r Weinyddiaeth Amaeth o 1917 hyd 1919, ac wedi hynny yn ymgynghorydd mewn llysieueg amaeth iddynt hyd 1921, pan y'i penodwyd yn ddarlithydd yn Adran Llysieueg amaeth Coleg y Brifysgol, Bangor. Yn 1926 dyrchafwyd ef yn ddarlithydd annibynnol a phennaeth Adran Llysieueg amaeth y coleg. Rhwng 1941 ac 1944 rhyddhawyd ef o'i swydd yn y coleg a phenodwyd ef yn swyddog gweinyddol i'r Weinyddiaeth Amaeth dros sir Gaernarfon. Am gyfnod byr yn 1944 ac 1945 bu'n Arolygydd Ei Mawrhydi dros ysgolion gwledig, a chyfrannodd o'i brofiad i Ddeddf Addysg 1944. Yng Ngorffennaf 1945 dychwelodd i Goleg y Brifysgol a'i benodi'n Athro Llysieueg amaeth cyntaf coleg Bangor. Daliodd y swydd hon tan ei ymddeoliad yn 1960.

Gweithiodd Alun Roberts yn ddygn i sefydlu adran gref ym Mangor a llwyddodd i ddatblygu ei ddull dihafal ei hun o drosglwyddo gwybodaeth i'w fyfyrwyr. Cyfrannodd doreth o erthyglau a phapurau i gylchgronau gwyddonol. Am ddeng mlynedd bu'n darlithio mewn cwrs tiwtorial ar bynciau bywydegol, ac ef oedd aelod cyntaf panel y naturiaethwyr ar y rhaglen radio adnabyddus ‘Byd Natur’. Oherwydd ei wybodaeth eang am Gymru bu galw mawr arno i eistedd ar lu o gyrff a chomisiynau cenedlaethol, fel pwyllgor rheoli'r Amgueddfa Werin; cyngor amaethyddol Cymru; cyngor Cymru y Comisiwn Coedwigaeth (1946-53); cyngor Arglwydd Carrington ar Addysg Amaethyddol; cadeirydd cyntaf y Warchodaeth Natur (1953-56); aelod Cymreig o'r Comisiwn Brenhinol ar Dir Comin (1955-58); aelod o dîm ymchwil Sefydliad Nuffield ar Dir Comin yng Nghymru a Lloegr a Phwyllgor Adnoddau Dwr i Gymru.

Bu'n Uchel Siryf sir Gaernarfon yn ystod y cyfnod 1955-56. Am ei waith i amaethyddiaeth fe dderbyniodd y C.B.E. yn 1962. Yr oedd i'w anrhydeddu â gradd D.Litt. yng Ngorffennaf 1969, ond bu farw yn ysbyty Môn ac Arfon, 19 Mai 1969. Gwasgarwyd ei lwch dros fynydd y Cymffyrch, dafliad carreg o'i hen gartref.

Yr oedd yn awdur nifer o lyfrau e.e. Y tir a'i gynnyrch; Hafodydd brithion; Welsh Homespun; Y tyddynnwr-chwarelwr yn Nyffryn Nantlle (Darlith flynyddol Llyfrgell Penygroes, 1968); Yr elfen fugeiliol ym mywyd Cymru (Darlith Radio 1968) a chyd-awdur Commons and Village Green (1967).

Priododd Jennie, merch Mr. a Mrs. John Morris Williams, Cae Mawr, Tan'rallt, yn 1924, a bu iddynt un ferch.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1997

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/