Ganwyd 1880, yn Cameron, Fife, yr Alban, yn fab i John Robertson, yr ysgolfeistr lleol. Ar ôl bod yn ysgol ei dad yn Cameron ac yng Ngholeg Madras, S. Andrews, lle disgleiriodd mewn mathemateg, aeth i Brifysgol S. Andrews a graddio'n M.A. a B.D. ac ymlaen wedyn i Brifysgolion Leipzig, Berlin a Heidelberg; bu hefyd yn Syria am flwyddyn yn dysgu Arabeg. Dychwelodd i S. Andrews am flwyddyn (1905-06) i gynorthwyo'r Athro Hebraeg, ac yna bu'n Ysgolor ac yn Gymrawd Ymchwil Carnegie cyn mynd yn ddarlithydd mewn Arabeg ym Mhrifysgol Caeredin (1913-21).
Daeth i Gymru yn Athro Hebraeg a Ieithoedd Semitig yng Ngholeg y Brifysgol, Bangor (1921-35). Yr oedd ' Jock ', fel y gelwid ef, yn athro poblogaidd ym Mangor, a gwnaeth ymdrech lew i feistroli'r Gymraeg; anfarwolodd ei hun am iddo trwy lithriad bychan alw llyfrgellydd enwog y Coleg, y Dr. Thomas Richards, yn 'llyfrgollydd'. Bu'n isbrifathro'r Coleg (1926-28) ac yn Ddeon Diwinyddiaeth (1922-34). Aeth o Fangor i Gadair Ieithoedd Semitig Prifysgol Manceinion (1934-45), lle bu hefyd yn rhag-is-ganghellor (1944); bu wedyn yn Llyfrgellydd Llyfrgell John Rylands (1949-62). Enillodd D.Litt. yn S. Andrews yn 1913, a chafodd nifer o anrhydeddau: ei wneud yn ddarlithydd Gunning Prifysgol Caeredin (1929-32), derbyn D.D. er anrhydedd gan Brifysgolion Cymru a S. Andrews, ac LL.D. gan Brifysgol Manceinion, a'i wneud yn llywydd Cymdeithas Efrydu'r Hen Destament.
Llawysgrifau yn yr ieithoedd Semitig oedd ei faes, a chyhoeddodd amryw o astudiaethau'n ymwneud â hwy; bu hefyd yn olygydd Bwletin Llyfrgell John Rylands. Ar ôl ymddeol ymfudodd i Ganada at un o'i ddwy ferch, ac yno y bu farw 29 Ebrill 1964.
Dyddiad cyhoeddi: 1997
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.