Ganwyd 14 Mai 1883 yn Nhalweunydd, Blaenau Ffestiniog, Meirionnydd, yn fab i David a Catherine Roberts. Dechreuodd ymddiddori mewn canu gyda'r tannau pan oedd yn ifanc iawn, a bu ef, ynghyd â nifer o lanciau eraill o gylch y Blaenau, megis Ioan Dwyryd, Robert G. Humphreys, a W. Morris Williams, yn arfer cyrchu i fwthyn Llys y Delyn, Rhiwbryfdir, Blaenau Ffestiniog, lle trigai David Francis ('Telynor Dall o Feirion') ym mlynyddoedd cynnar yr 20fed ganrif. Gan David Francis, ac yng nghwmni ei gyfoedion, y dysgodd Dewi Mai sut i osod pennill ar gainc a sut i drafod y cynganeddion. Wedi cyfnod o fyw yn Lloegr, dychwelodd i Feirion, gan dreulio peth amser ym Mhenllyn cyn ymsefydlu yn nhref Dolgellau. Yno, tra'n dilyn ei waith fel newyddiadurwr, ymdaflodd i'r gwaith o ddysgu eraill i ganu penillion. Lluniodd gannoedd lawer o osodiadau, gan eu hanfon drwy'r post i bob rhan o Gymru. Trwy hyn bu'n gyfrwng i ennyn diddordeb llawer un a ddaeth yn eu tro yn ddatgeiniaid a gosodwyr amlwg. Cyhoeddodd dri llyfr o osodiadau, ac ef ei hunan oedd awdur llawer o'r cerddi sydd ynddynt: Diliau'r plant (1913), Trysorau'r tannau (1935), Y patrwm (1952). Ond er cymaint fu ei gyfraniad fel gosodwr a hyfforddwr, fe wnaeth ddau gyfraniad arall pwysicach a fu'n gwbl allweddol i ddatblygiad canu gyda'r tannau. Trwy gydol 1933 ac 1934 bu'n ysgrifennu colofn wythnosol yn Y Cymro o dan y pennawd ' Cornel y delyn '. Ynddi bu'n trafod pob agwedd o'r hen gelfyddyd, gan ddwyn sylw'r cyhoedd ati. Galwodd am sefydlu cymdeithas genedlaethol i hybu'r hen ddull hwn o ganu, a thrwy ei erthyglau bu'n braenaru'r tir er sicrhau llwyddiant Cymdeithas Cerdd Dant Cymru pan sefydlwyd honno yn y Bala ym mis Tachwedd 1934. Wedi sefydlu'r Gymdeithas, Dewi Mai o Feirion a luniodd y drafft cyntaf o'r Rheolau Cerdd Dant a fabwysiadwyd gan y Gymdeithas yn ddiweddarach, ac a bery hyd heddiw yn ganllawiau i osodwyr. Yr oedd ei gyfraniad ef i ddatblygiad y gelfyddyd o ganu gyda'r tannau rhwng 1920 ac 1956 yn holl-bwysig. Priododd â Kate Laura Ephraim. Bu farw 27 Tachwedd 1956.
Dyddiad cyhoeddi: 1997
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.