Ganwyd 26 Rhagfyr 1892 yn Nhwynyrodyn, Lavernock, ger Penarth, Morgannwg, yn un o dri o feibion David a Sarah (ganwyd Thomas) Rowlands, a gadwai siop groser. Cafodd ei addysg yn ysgol sir Penarth ac oddi yno aeth i Goleg Prifysgol Cymru, Aberystwyth, yn 1911. Ar derfyn ei flwyddyn gyntaf rhagwelai'r Athro Hermann Ethé gwrs disglair iddo mewn Almaeneg, a graddiodd gyda dosbarth I yn y pwnc yn 1914 a chymryd yr un dosbarth mewn Ffrangeg yn 1915. Dangosodd y nodweddion a arweiniodd i'w yrfa ddisglair yn ystod ei gyfnod yn y coleg. Yr oedd yn un o fyfyrwyr mwyaf poblogaidd ei gyfnod, yn bencampwr ar redeg can llath, yn gefnwr ac yn gapten y tîm rygbi (dyluniad ohono yn y Dragon, XXVI, 221), yn rhwyfwr medrus ac yn llywydd y myfyrwyr yn 1914-15 (darlun ohono yn ei lifrai yn y Dragon, XXVII, 18). Ceisiodd yr Athro Ethé ei berswadio i fynd i Gaergrawnt i astudio ieithoedd dwyreiniol ond i Goleg Iesu yn Rhydychen y dewisodd fynd. Ychydig amser a dreuliodd yno gan iddo ymuno â'r fyddin a throi cefn ar fywyd academaidd. Gwasanaethodd yng nghorfflu'r seiclwyr a chodi i reng capten a chael ei enwi mewn cadnegesau. Bu'n swyddog gwybodaeth yn Baghdad a bu ganddo ran yn llunio cytundeb cadoediad gyda'r Tyrciaid yn 1917. Enillodd yr M.B.E. filwrol.
Yn 1920 ymunodd ag adran weinyddol y Gwasanaeth Sifil ac erbyn 1937 yr oedd yn ysgrifennydd cynorthwyol. Bu'n ysgrifennydd preifat i dri Ysgrifennydd Gwladol yn y Swyddfa Ryfel, yr Is-ieirll Hailsham a Halifax a Duff Cooper. Treuliodd y flwyddyn 1936 yn yr Imperial Defence College. Yn 1937 aeth i'r India i gymryd gofal gwariant amddiffyn yno. Galwyd ef yn ôl i Lundain yn 1939 fel dirprwy is-ysgrifennydd i'r Weinyddiaeth Awyr, ac yn 1940 fe'i penodwyd yn ysgrifennydd parhaol cyntaf i'r Weinyddiaeth Cynhyrchu Awyrennau, ac i'w ynni dihysbydd a'i dreiddgarwch ef y mae llawer o'r clod am lwyddiant y gwaith hwnnw yn ystod Rhyfel Byd II. Ym mis Medi 1941 yr oedd ar genhadaeth Beaverbrook Harriman ym Moscow. Yn 1943 fe'i dewiswyd i gynghori'r Arglwydd Wavell ar drefniadaeth filwrol yn yr India yn wyneb y rhyfel â Siapan. Yn dilyn y newyn yn Bengal penodwyd ef yn gadeirydd yr ymchwiliad i Weinyddiaeth y dalaith. Enillodd edmygedd yr Indiaid. Yn 1945 fe'i hapwyntiwyd yn aelod cyllidol o Bwyllgor Gwaith y Rhaglaw. Chwaraeodd ran flaenllaw yn y trefniadau i ddirwyn y llywodraeth ymerodrol i ben. Yn 1946 gwnaethpwyd ef yn Ysgrifennydd Parhaol y Weinyddiaeth Gyflenwi, ond am y pum mis olaf o'r flwyddyn 1947 yr oedd ar ei drydydd ymweliad â'r India, y tro hwn fel cynghorwr cyllidol ac economaidd i'r Quaid-i-Azam Mahomed Ali Jinnah, llywodraethwr cyffredinol Pakistan, arwydd arall o ymddiriedaeth yr Indiaid yn ei allu trefniadol. Gwelwyd ffrwyth ei gyngor yng nghanoli'r llywodraeth yn Karachi, er iddo ragweld y gallai problemau godi yn nwyrain Bengal. Hyd nes ymddeol yn drigain oed yn 1953 yr oedd yn aelod o'r Bwrdd Cynllunio Economaidd. Fe'i cyfrifid y disgleiriaf a'r mwyaf adeiladol o'i genhedlaeth yn Whitehall. Pan ymddeolodd o'i swyddi gwahoddodd Beaverbrook ef i ymuno â Bwrdd papurau newydd yr Express.
Yr oedd iddo bersonoliaeth gref ac atyniadol. Er ei fod ei hun yn weithiwr caled ac yn disgwyl yr un ymroddiad gan ei gynorthwywyr, yr oedd yn deyrngar i'r eithaf iddynt, yn hawdd dynesu ato, heb ddim derbyn wyneb, ac yn parchu'r delfrydau traddodiadol. Nid oedd ganddo amynedd tuag at ddiffyg moesgarwch, anniolchgarwch, crintachrwydd na chymryd mantais annheg; cwmnïwr diddan, llawn hiwmor. Gwelai ei gydweithwyr ynddo reddf farddonol a huotledd a berthynai, yn eu golwg hwy, i'w gefndir Cymreig. Gwnaethpwyd ef yn llywydd y Gymdeithas Gymreig yn Delhi Newydd. Cafodd ei wneud yn K.C.B. yn 1941 a G.C.B. yn 1947.
Priododd yn Abertawe, 15 Medi 1920, â Constance May Phillips, un o'i gyfoedion coleg a merch Phillip Walter Phillips, rheolwr porthladd Abertawe. Ni bu iddynt blant. Bu farw o drawiad o'r parlys yn ei gartref yn Henley-on-Thames, 18 Awst 1953, heb sylweddoli ei fwriad o ymddeol i gyffiniau Llangadog, cartref ei hynafiaid, lle y gobeithiasai gael trin ei ardd ac adnewyddu ei berthynas â'i hen gyfeillion yn y Gymru Gymraeg, a meithrin ei enaid yno. Pe cawsai ei ddymuniad ond odid na byddai wedi ymfwrw i'r frwydr genedlaethol gyda'i hen gyfaill coleg, D.J. Williams o Rydcymerau.
Dyddiad cyhoeddi: 1997
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.