Ganwyd 25 Rhagfyr 1872, yn fab hynaf i Evan Jenkins, Bodhyfryd, Stryd-y-bont, Aberystwyth, a Mary ei wraig ond pan oedd yn ddwyflwydd oed collwyd ei dad ar y môr. Mynychodd ysgol ramadeg Jasper House a dechrau gweithio mewn swyddfa cyfreithiwr yn y dref cyn ymuno â chwmni llongau Mathias a'i Fab yng Nghaerdydd lle y daeth yn ysgrifennydd y cwmni. Bu'n aelod o fwrdd Cymdeithas Morwyr Prydain a rhoddodd yn hael tuag at y gymdeithas. Âi ei waith ag ef yn aml i'r Eidal lle y rhoddwyd iddo dlws yn 1940 gan frenin y wlad honno am feithrin cyfeillgarwch rhwng yr Eidal a Phrydain. Ond ni chollodd gysylltiad â'i sir enedigol. Bu'n ustus a siryf Sir Aberteifi, ac yn aelod o lys llywodraethwyr a chyngor C.P.C., Aberystwyth. Cyflwynodd i'r coleg gerflun efydd o Ddug Windsor fel Tywysog Cymru, gwaith Mario Rutelli a'r unig gerflun mawr a wnaed o'r tywysog, a gwaddol i sefydlu ysgoloriaeth i ddysgyblion lleol. Bu ar lys a chyngor y Llyfrgell Genedlaethol ac yn noddwr hael iddi hithau hefyd. Ef a roddodd y cerflun marmor o Syr John Williams i'r Llyfrgell, y gofeb ryfel efydd i Eglwys y Tabernacl (MC), Aberystwyth, gan ddymuno i'r arian a gasglwyd gan aelodau'r Eglwys at y gofeb gael ei drosglwyddo i ysbyty'r dref i agor ward plant yno a bu ynglŷn â'r gofeb ryfel i dref Aberystwyth (y rhain eto o waith Rutelli). Gwasanaethodd Gymdeithas Cymmrodorion Llundain fel trysorydd (1934-49) ac is-lywydd, gan gyfrannu llawer tuag at gyhoeddi'r Bywgraffiadur Cymreig hyd 1940.
Newidiodd ei enw i Slingsby-Jenkins pan briododd (1), c. 1937, â Roma Beatrice Evlyn Marie Slingsby (a fu farw 7 Chwefror 1948), a gwnaethant eu cartref yn 9 Victoria Square, Llundain a Phontarfynach. Priododd (2) yn yr Eidal ychydig wythnosau cyn ei farw â Margherita Vita, wyres cyfaill iddo, a bu farw yn ei chartref yn Imperia, 5 Ebrill 1955.
Dyddiad cyhoeddi: 1997
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.