Ganwyd 10 Rhagfyr 1899 yn ardal Brentford yn fab hynaf E.J. Steegman, meddyg gyda'r llynges, a Mabel (ganwyd Barnet) ei wraig. Cafodd ei addysg yng Ngholeg Clifton, ac yng Ngholeg y Brenin, Caergrawnt lle y graddiodd yn M.A. Bu'n swyddog-cadet yn 1918; ac yn ohebydd am gyfnod byr cyn cael ei benodi'n ddarlithydd a thywysydd yn y National Portrait Gallery yn Llundain yn 1925; bu'n geidwad cynorthwyol yno o 1929 i 1945. Rhoddwyd ef ar secondiad i'r Cyngor Prydeinig i weithio yn Sbaen, Portiwgal, Ynys yr Iâ a Phalestina yn ystod Rhyfel Byd II. Ymgartrefodd yng Nghaerdydd wedi ei benodi'n Geidwad Adran Celfyddyd Amgueddfa Genedlaethol Cymru yn 1945 ond gadawodd yn 1952 i fynd yn bennaeth Amgueddfa Celfau Cain ym Montreal, Canada, lle y bu hyd 1959. Bu galw mawr arno wedi hynny fel darlithydd yng Nghanada, T.U.A. ac Awstralia.
Yn ystod ei gyfnod yn yr Amgueddfa Genedlaethol daeth yr adran gelfyddyd yn ganolfan bwysig i astudio gwaith Richard Wilson (Bywg., 1022), a bu'n gefnogaeth i gelfyddyd gyfoes yng Nghymru. Cyn gadael yr Amgueddfa gwnaeth gatalog o gymynrodd Gwendoline Davies. Daeth i Gymru fel arbenigwr ar bortreadau Prydeinig, a'i gyfraniad pennaf i'r Amgueddfa oedd ei arolwg o bortreadau ym mhlasau Cymru. Cyhoeddwyd Survey of portraits in North Wales houses (1955) wedi iddo adael Cymru, a gorffennwyd arolwg de Cymru gan R.L. Charles a'i gyhoeddi yn 1961. Cyhoeddodd nifer o erthyglau a llyfrau eraill ar gelfyddyd gan gynnwys Hours in the National Portrait Gallery (1928) a The artist and the country house (1949). Yr oedd ef ei hun yn beintiwr dyfrlliw, a'i unig frawd Philip yn beintiwr portreadau. Ni bu'n briod a dychwelodd i fyw yn 9 Sloane Gardens, Llundain, ond bu farw yn Coffinswell, Dyfnaint, 15 Ebrill 1966. Cafodd O.B.E. yn 1952.
Dyddiad cyhoeddi: 1997
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.