STEPHENSON, THOMAS ALAN (1898 - 1961), swolegydd

Enw: Thomas Alan Stephenson
Dyddiad geni: 1898
Dyddiad marw: 1961
Priod: Anne Stephenson (née Wood)
Rhiant: Margaret Ellen Stephenson (née Fletcher)
Rhiant: Thomas Stephenson
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: swolegydd
Maes gweithgaredd: Natur ac Amaethyddiaeth; Gwyddoniaeth a Mathemateg
Awdur: Mary Auronwy James

Ganwyd 19 Ionawr 1898 yn Burnham-on-Sea, Gwlad-yr-haf, mab Thomas Stephenson, D.D., gweinidog (EF.) a'i wraig Margaret Ellen (ganwyd Fletcher). Addysgwyd ef yn Clapham; Wrecsam; ac Ysgol Kingswood, Caerfaddon, 1909-13. Yn 1915 derbyniwyd ef i G.P.C., Aberystwyth (lle y preswyliai'r teulu, 1914-19) ond methodd â mynychu'r coleg oherwydd afiechyd. Cafodd wersi preifat gan yr Athro Herbert John Fleure a'i penododd yn arddangosydd ac a gafodd iddo anemonïau môr a gasglwyd gan y British Antarctic Expedition yn 1910 i'w hastudio - pwnc ei bapur cyntaf a gyhoeddwyd yn 1916. Er nad oedd ganddo radd prifysgol, caniatawyd iddo gyflwyno papurau cyhoeddedig ar gyfer gradd M.Sc. a D.Sc. Etholwyd ef yn Gymrawd o'r Gymdeithas Frenhinol yn 1951. Yn 1922 penodwyd ef yn ddarlithydd mewn swoleg yng Ngholeg y Brifysgol, Llundain, a chydweithiodd gyda'i dad yn ystod 1920-24 i gyhoeddi papurau ar degeiriannau Prydain yn Jnl. of Botany. O dan ei ofal ef yr oedd yr adran o'r Great Barrier Reef Expedition 1928-29 a astudiai'r rîff ei hunan (Reports, cyf. 3), a gwnaeth gyfraniad mawr i'n dealltwriaeth o dyfiant y cwrel sy'n ffurfio rîff. Yn 1930 penodwyd ef yn Athro swoleg ym Mhrifysgol Cape Town, De Affrica. Yno trefnodd arolwg eang o ddosbarthiad planhigion ac anifeiliaid môr ar hyd 1800 milltir o'r arfordir. Yn 1941 daeth yn Athro sŵoleg C.P.C., Aberystwyth, a gwnaeth astudiaeth arloesol o arfordir gogledd America yn 1947, 1948 ac 1952. Yr oedd yn ddarlithydd cymeradwy ac y mae'r sylw a gymerai o gynllun a lliw mewn natur ynghyd â'i dalent gynhenid yn amlwg yn ei ddarluniau eglurhaol i'w ddwy gyfrol The British sea anemones (1928, 1935), a Seashore life and pattern (1944).

Yn 1922 priododd Anne Wood o Wlad-yr-haf a'r Barri a gydweithiodd yn agos ag ef yn ei ymchwil. Bu farw 3 Ebrill 1961.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1997

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.