STONELAKE, EDMUND WILLIAM (1873 - 1960), gwleidydd a ffigur allweddol yn hanes sefydlu'r Blaid Lafur yn etholaeth Bwrdeistrefi Merthyr.

Enw: Edmund William Stonelake
Dyddiad geni: 1873
Dyddiad marw: 1960
Priod: Rebecca Stonelake (née Hobbs)
Rhiant: Hannah Stonelake
Rhiant: George Stonelake
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: gwleidydd
Maes gweithgaredd: Diwydiant a Busnes; Gwleidyddiaeth a Mudiadau Gwleidyddol
Awdur: David Leslie Davies

Ganwyd 5 Ebrill 1873 ym Merchant St., Pontlotyn, cwm Rhymni, Morgannwg, yr olaf o ddeg plentyn George a Hannah Stonelake, a chafodd ei fam (ganwyd yng Nghaerloyw) ddylanwad cryf arno. Magwyd ef ar aelwyd ddi-Gymraeg ac Anglicanaidd : deubeth a'i gosododd y tu allan i'r diwylliant Anghydffurfiol, Cymraeg, Rhyddfrydol a nodweddai faes glo de Cymru yn ystod y 19g. Gadawodd yr ysgol yn ddeg oed a dechreuodd weithio dan ddaear yn unarddeg wedi i'w fam, yn eu tlodi, newid manylion ei dystysgrif geni, ond bu rhaid ymadael â'r pwll ymhen mis ar ganfod hyn ac ailgychwyn pan oedd yn ddeuddeg. Tua diwedd 1888 symudodd ef a'i fam weddw at frawd hyn yn Aberdâr oherwydd cyflogau uwch glofeydd yno a daeth i gyswllt â thraddodiad radicalaidd y cwm. Dywedai Stonelake fod y newid wedi ' achub fy enaid '. Oddeutu 1892 dechreuodd ar fywyd cyhoeddus gyda chymdeithas gyfeillgar leol, ac fel disgybl mewn dosbarth yng ngofal C.A.H. Green, ficer Aberdâr. Erbyn 1895 ystyriai Stonelake ei hun yn Sosialydd, ac etholwyd ef i bwyllgorau'r Mudiad Cydweithredol, Neuadd y Gweithwyr a chyfrinfa'i lofa. Maes o law, aeth yn gadeirydd Pwyllgor Gwaith Glowyr Ardal Aberdâr. Yr oedd yn un o'r myfyrwyr cyntaf o Gymru i fynychu Coleg Ruskin yn Awst 1901. Gwnaeth y profiad argraff barhaol arno, ond dychwelodd i'r lofa yn Aberdâr ymhen pum mis. Bu wrth y talcen glo hyd 1913 pryd yr etholwyd ef gan ei gydweithwyr yng nglofa'r Bwllfa yn arolygydd diogelwch yn y pwll yn ôl Deddf Mwynau 1911. Ef oedd y person cyntaf ym Mhrydain i'w ethol felly, ond heriwyd ei hawl gan y cwmni a oedd ym meddiant teulu Syr D. R. Llewellyn nes i Keir Hardie sicrhau ei awdurdod ar lawr Ty'r Cyffredin. Wedyn etholwyd ef yn gynrychiolydd cyflog isafswm ei gydweithwyr, a bu yn y swyddi hyn tan 1946. Erbyn 1897 yr oedd yn aelod o Gymdeithas Sosialaidd Aberdâr, a bu'n ysgrifennydd y Cyngor Undebau Llafur lleol, 1902-29. Ar awgrym y Cyngor hwn dechreuwyd yn 1902 enwebu ymgeiswyr Llafur yn rheolaidd i'w hethol i'r awdurdod lleol yn Aberdâr. Yn 1904 etholwyd Stonelake ei hun i'r awdurdod, a bu'n gadeirydd y cyngor lleol, 1909-10. Gwasgodd Stonelake a'r aelodau Llafur bolisi o fenter gyhoeddus ar yr awdurdod. Cychwynasant sustem tramiau cyhoeddus a chyflenwad trydan i oleuo tai a strydoedd; ac fel awdurdod addysg dan Ddeddf 1902 cychwynasant ysgol i blant dan nam corfforol a meddyliol (1913) a chlinig i fabanod (1915). Yr oedd Stonelake ei hun falchaf o benodi yn 1907 swyddog iechyd i ysgolion yr awdurdod, ac wedyn wasanaeth i fwydo disgyblion anghenus. Bu hefyd yn flaenllaw yn sefydlu Ysbyty Cyffredinol Aberdâr (1915). Rhwng 1904 ac 1914 arweiniodd ymgyrch gref yn erbyn cyflwr gwael tai'r ardal. O'r herwydd, dechreuodd y cyngor lleol godi tai cyhoeddus ychydig cyn y Rhyfel gan ailgychwyn yn 1918. Eithr costiodd sgandal am lygredd ariannol rhai o swyddogion tai y cyngor rhwng 1919 ac 1922 yn ddrud i Stonelake fel cadeirydd y pwyllgor tai; er nad oedd ganddo ran yn y drosedd collodd ei sedd am byth ar yr awdurdod yn 1922. Tanlinellwyd ei fod yn ddieuog pan benodwyd ef yn Ynad Heddwch yn 1928 (swydd a ddaliodd tan 1950). Ef oedd cydlynydd yr ymdrech i gynnal tua 10,000 o lowyr a'u teuluoedd yn ystod eu streic yn 1926 a barhaodd am chwe mis wedi i'r Streic Gyffredinol ddod i ben. Bu'n ysgrifennydd y Blaid Lafur yn yr etholaeth (1929-45), a threuliodd lawer o'i amser yn ystod gorthrwm yr 1930au yn trefnu gwrthdystiadau'r di-waith ac yn eu hyfforddi ar gyfer profion y Court of Referees oedd yn cyson herio'u hawl i fudd-dal.

Yr oedd ganddo'r dirmyg mwyaf tuag at C.B. Stanton am iddo 'gilio o'i blaid' a bradychu Keir Hardie ar awr gyfyng yn 1914. Stonelake oedd Cynrychiolydd pob ymgeisydd a roed i fyny yn erbyn Stanton wedi marw Keir Hardie, ac mae ei sylwadau ar T.E. Nicholas ac etholiad 1918 yn arbennig o ddadlennol. Ni fu Stonelake yn ffigur cenedlaethol, eithr gwasanaethai arweinwyr eangach. Gweithiai'n ddygn dros wreiddio'r Blaid Lafur yn ddwfn yng nghanol maes glo de Cymru. Estynnodd rhychwant ei weithgaredd o ddyddiau ymylol yr I.L.P. ar ddiwedd y 19g. hyd gyfnod y llywodraeth Lafur gyntaf i feddu mwyafrif sicr dan Attlee yn 1945. Y mae ei fywyd yn enghraifft glasurol o'r ymdrech a roes i'r Blaid Lafur oruchafiaeth yng ngwleidyddiaeth de Cymru yn yr 20fed ganrif.

Priododd, yn 1895, Rebecca Hobbs (marw 1950) a bu iddynt chwe mab a dwy ferch. Bu farw 5 Ebrill 1960.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1997

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.