THODAY, DAVID (1883 - 1964), botanegydd, Athro prifysgol

Enw: David Thoday
Dyddiad geni: 1883
Dyddiad marw: 1964
Priod: Mary Gladys Thoday (née Sykes)
Rhiant: Susan Elizabeth Thoday (née Bingham)
Rhiant: David Thoday
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: botanegydd, Athro prifysgol
Maes gweithgaredd: Addysg; Natur ac Amaethyddiaeth; Gwyddoniaeth a Mathemateg
Awdur: Evan David Jones

Ganwyd 5 Mai 1883 yn Honiton, Dyfnaint, yr hynaf o chwe phlentyn David a Susan Elizabeth (ganwyd Bingham) Thoday. Ysgolfeistr oedd y tad, a symudodd y teulu i Lundain lle y cafodd y mab ei addysg yn ysgol ramadeg Tottenham, 1894-98, cyn ymaelodi yng Ngholeg y Drindod, Caergrawnt yn 1902. Arbenigodd mewn botaneg o dan gyfarwyddyd H. Marshall Ward, A.C. Seward a F.F. Blackman. Cafodd ddosbarth cyntaf yn nwy ran y Tripos yn 1905 ac 1906 ac enillodd Fedal Walsingham yn 1908. Wedi treulio dwy fl. (1909-11) yn Arddangosydd ('Demonstrator') Prifysgol mewn botaneg yng Nghaergrawnt penodwyd ef yn ddarlithydd mewn botaneg ffisiolegol ym Mhrifysgol Manceinion yn 1911 ac yna yn 1918 i Gadair Harry Bolas mewn botaneg ym Mhrifysgol Cape Town, De Affrica. Yn 1923 aeth i Goleg Prifysgol Gogledd Cymru, Bangor, yn Athro Botaneg, yn olynydd i Reginald W. Phillips, a bu yno nes iddo ymddeol yn 1949. Ar ôl ymddeol bu'n athro ffisioleg planhigion ym Mhrifysgol Alexandria, yr Aifft, ond dychwelodd i Fangor yn 1955.

Enillodd radd Sc.D. (Caergrawnt); etholwyd ef yn F.R.S. yn 1942 a dyfarnwyd iddo radd D.Sc. (Cymru) er anrhydedd yn 1960. Cyhoeddodd Botany: a textbook for senior students (1915; 5 argraffiad) a nifer o erthyglau pwysig yn ei faes gan gynnwys cyfres ar y planhigion suddlon Kleinia articulata, yn arbennig eu metabolaeth asidig. Yr oedd ei ddarlith lywyddol i'r British Association, Adran K, yn 1939, ' The interpretation of plant structures ', yn arloesol.

Cynorthwywyd ef yn llawer o'i waith gan ei wraig a briododd 15 Mehefin 1910, hithau, dan ei henw Mary Gladys Sykes o Goleg Girton a chymrawd ymchwil Coleg Newnham, yn awdur nifer o bapurau ar destunau botanegol. Merch John Thorley Sykes o'r Orsedd, Sir Ddinbych, oedd hi, a bu iddynt bedwar mab. Bu farw ei wraig yn 1943, a bu yntau farw yn Llanfairfechan 30 Mawrth 1964.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1997

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.