THODAY, MARY GLADYS (g. Sykes) (1884 - 1943), gwyddonydd, etholfreintwraig, ymgyrchydd heddwch

Enw: Mary Gladys Thoday
Dyddiad geni: 1884
Dyddiad marw: 1943
Priod: David Thoday
Plentyn: David Robert Gabriel Thoday
Plentyn: Peter Murray Thoday
Plentyn: John Marion Thoday
Plentyn: Michael George Thoday
Rhiant: John Thorley Sykes
Rhiant: Mary Louisa Sykes (née March)
Rhyw: Benyw
Galwedigaeth: gwyddonydd, etholfreintwraig, ymgyrchydd heddwch
Maes gweithgaredd: Gwyddoniaeth a Mathemateg; Ymgyrchu
Awdur: Dinah Evans

Ganwyd Gladys Thoday ar 13 Mawrth 1884 yng Nghaer, plentyn cyntaf John Thorley Sykes (1852-1908), brocer cotwm, a'i wraig Mary Louisa (g. March, 1856-1951). Roedd ganddi un chwaer, Olive Thorley Sykes (1886-1933). Symudodd y teulu'n nes ymlaen i gartref y teulu Sykes, Croes Howell ger Gresffordd yn Sir Ddinbych.

Cafodd ei haddysg yn Ysgol y Frenhines, Caer, cyn mynd yn ddeunaw oed i Goleg Girton, Caergrawnt, lle llwyddodd gyda dosbarth cyntaf yn nwy ran y Tripos Gwyddoniaeth Naturiol, gan fynd ymlaen i wneud ymchwil mewn botaneg fel myfyrwraig Bathurst a chymrawd ymchwil yng Ngholeg Newnham, Caergrawnt. Bu'n aelod o Gymdeithas Marshall Ward, cymdeithas fawr ei bri yn y brifysgol lle câi merched gyfle i gyflwyno papurau a chymryd rhan mewn trafodaeth rydd. Cyd-aelod o'r Gymdeithas oedd David Thoday (1883-1964), yntau hefyd yn fotanegydd; priododd y ddau yn Eglwys Gresffordd yn 1910. Ganwyd iddynt bedwar mab, David Robert Gabriel Thoday, a elwid yn Robin (1911-1983); Peter Murray Thoday (1913-1999); John Marion Thoday (1916-2008), Athro Balfour mewn Geneteg ym Mhrifysgol Caergrawnt 1959-1983, a Michael George Thoday (1920-1989).

Cyhoeddodd Gladys nifer o bapurau gwyddonol, cyn ac ar ôl ei phriodas, rhai ar ei phen ei hun a rhai ar y cyd ag eraill. Pan dderbyniodd ei gŵr swydd ddarlithio ym Mhrifysgol Manceinion yn 1911, penodwyd Gladys yn Gymrawd Ymchwil Anrhydeddus yno, a gweithiodd ym maes botaneg Phanerogamig gan gyfrannu i raglen ymchwil yr adran yn ogystal â dysgu.

Roedd Gladys Thoday yn aelod o Gymdeithas Genedlaethol Cymdeithasau Etholfraint Merched, a gwasanaethodd am bedair blynedd yn ysgrifennydd anrhydeddus Ffederasiwn Cymdeithasau Etholfraint Merched Ardal Manceinion. Parhaodd ei hymroddiad i'r achos hwn wedi iddi fynd i Dde Affrica pan dderbyniodd ei gŵr gadair ym Mhrifysgol Cape Town yn 1918. O fewn dwy flynedd penodwyd Gladys yn is-lywydd Cymdeithas Etholfraint Merched Undeb De Affrica a chafodd gyfle ddwywaith i holi'r Prif Weinidog, Jan Smuts, yn bersonol ar gwestiwn y bleidlais i ferched. Tra yn Ne Affrica daliodd ati gyda'i hymchwil fotanegol ei hun, ac ar gais yr Athro A. C. Seward o Brifysgol Caergrawnt cwblhaodd waith anorffen y diweddar Athro H. H. W. Pearson, sylfaenydd Gardd Fotanegol Genedlaethol Kirstenbosch, ar Gnetales. Roedd dyfodol De Affrica a lles ei thrigolion yn bwysig iawn iddi, a hyd yn oed ar ôl dychwelyd i Brydain parhaodd ei hymdrechion i wella cyflwr y brodorion Affricanaidd trwy addysg a galw am etholfraint, yn ogystal â'i phryder am anffurfio organau cenhedlu benywod.

Yn 1923 dychwelodd Gladys a'i theulu i Brydain pan dderbyniodd ei gŵr gadair mewn botaneg yng Ngholeg Prifysgol Gogledd Cymru, Bangor, ac yn fuan wedyn fe'i penodwyd hithau'n ddarlithydd anrhydeddus. Ym Mangor y dechreuodd ei hymroddiad i achos heddwch. Yn haf 1926, trefnwyd Pererindod Heddwch gan Gynghrair Ryngwladol Merched dros Heddwch a Rhyddid ('WILPF') lle teithiodd menywod o amryw rannau o Brydain i ymuno mewn rali yn Hyde Park yn Llundain. Arweiniwyd y garfan o ogledd Cymru gan Gladys Thoday, ynghyd â Charlotte Price White a Mary Silyn Roberts, ac roedd Gladys ymhlith y siaradwyr a anerchodd y dorf. Sefydlwyd Cyngor Heddwch Merched Gogledd Cymru yn sgil y Pererindod Heddwch. Gladys oedd ei Ysgrifennydd Anrhydeddus o'r cychwyn, a daliodd y swydd honno hyd ei marwolaeth. Roedd yn llythyrwr diwyd, gan herio unigolion, sefydliadau, gwleidyddion a hyd yn oed benaethiaid rhyngwladol, yn ei hymdrech i godi ymwybyddiaeth y cyhoedd am achos diarfogi.

Bu Gladys Thoday yn aelod o nifer o gymdeithasau heddychol a gwrth-ryfel. Yn ogystal â bod yn Ysgrifennydd Anrhydeddus Cyngor Heddwch Gogledd Cymru ac yn Aelod Gweithredol o Bererindod Heddwch Merched Prydain, roedd hefyd yn aelod o Gyngor Cyffredinol Cynghrair Cenhedloedd Prydain, yn aelod o Gyngor Cenedlaethol Cymru Undeb Cynghrair y Cenhedloedd ac yn aelod o Gyngor Ymgynghorol Merched Cynghrair y Cenhedloedd. Ychwanegwyd at y rhestr honno, erbyn 1936, aelodaeth o Bwyllgor Heddwch Cyngor Cenedlaethol Merched ac o Bwyllgor Gwaith Cenedlaethol y Cyngor Gweithredu. Nid mater o enw'n unig oedd ei hymwneud â'r sefydliadau hyn. Mynychai gyfarfodydd yn gyson gan adrodd yn fanwl ar y trafodaethau i gylchoedd a chyfarfodydd ar draws gogledd Cymru. Nid oedd yr un lleoliad yn rhy ddistadl nac yn rhy fygythiol iddi, boed yn anerchiad mewn ysgol leol neu ar fforwm cyhoeddus yn Geneva.

Wrth i nifer y cynadleddau diarfogi gynyddu yn ystod y 1930au, gwnaeth Gladys Thoday bob ymdrech i fynychu sesiynau ar draws Ewrop yn ogystal ag ym Mhrydain. Teithiodd i gynadleddau ym Mharis a Brwsel ac ar un o'i hymweliadau â Geneva cyflwynodd ddeiseb i Ysgrifennydd Tramor Prydain, Syr John Simon, yn gofyn am wahardd allforio arfau a deunyddiau rhyfel i Siapan yn ddi-oed. Yn Grenoble cyflwynodd adroddiad adran Prydain Seithfed Gyngres y WILPF ac yn 1937 teithiodd i Siecoslofacia lle'r anerchodd Nawfed Gyngres Fydeang y WILPF fel aelod o ddirprwyaeth Prydain. Yn ôl gartref cynrychiolodd Gymru ar ddirprwyaeth Pererindod Heddwch y Merched a fynychodd y Gynhadledd Ddiarfogi Morwrol ym Mhalas St. James, Llundain.

Yn y blynyddoedd cyn dechrau'r rhyfel, pan oedd eu meibion wedi dod i oed, symudodd Gladys a'i gŵr i fyw yn ninas Bangor a chroesawu ffoaduriaid o Ewrop Natsïaidd i'w cartref yn Llanfairfechan. Nid arwydd gwag oedd hyn gan i'r teuluoedd a gafodd loches yno aros yn y tŷ am flynyddoedd lawer.

Gwnaeth Gladys Thoday waith orchestol dros yr achosion y credai ynddynt, ac ni adawai i ddim oll sefyll yn ei ffordd. Ymroddodd yn llwyr i'w hymchwil yng Nghaergrawnt, gan gynhyrchu rhestr sylweddol o gyhoeddiadau. Gwnaeth gyfraniad arwyddocaol i fudiad etholfraint merched, yn enwedig yn Ne Affrica lle'r aeth â'r ddadl i'r lefel uchaf yn y wlad. Ond yr ymdrech dros heddwch oedd y peth pwysicaf yn rhan olaf ei bywyd. Trwy ei haelodaeth o'r sefydliadau mwyaf dylanwadol a'i chyfraniadau i gynadleddau rhyngwladol, bu Gladys yn lladmerydd angerddol dros achos diarfogi.

Bu Gladys Thoday farw ym Mangor ar 9 Awst 1943 o waedlif ar yr ymenydd.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 2023-06-07

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.