Ganwyd 19 Medi 1910 ym Mhlas-marl, Abertawe, mab W. Roger Thomas. Cafodd ei enw Ffrangcon ar ôl y canwr David Thomas Ffrangcon Davies, un o arwyr ei dad. Pan oedd yn un ar ddeg oed dechreuodd ddysgu'r sielo gyda Gwilym Thomas, Port Talbot, ac ymhen dwy flynedd enillodd ysgoloriaeth i Ysgol Sielo Herbert Walenn yn Llundain. Cafodd wobrau yn eisteddfodau Cenedlaethol Pont-y-pŵl (1924) ac Abertawe (1926). Wedi astudio ymhellach yn yr Academi Gerdd Frenhinol, lle'r enillodd fedalau efydd ac arian, ynghyd ag ysgoloriaeth Ada Lewis, bu'n aelod o nifer o gerddorfeydd, gan gynnwys Cerddorfa Ffilharmonig Llundain a Cherddorfa Simffoni y B.B.C. Bu'n perfformio hefyd yn Neuadd Wigmore ac yn y Tŷ Opera Brenhinol, Covent Garden. Yn ystod Rhyfel Byd II bu'n gwasanaethu yn y fyddin ac yna bu'n astudio ym Mhrâg wrth draed Pravoslav Sadlo a Rafael Kubelik. Cafodd yrfa brysur fel unawdydd ym Mhrydain a theithiodd i Awstralia a'r Dwyrain Pell. Ffurfiodd ddeuawd gyda'r telynor Osian Ellis, gan ddarlledu a gwneud record i gwmmi Delysé. Ymdrechodd i sefydlu cerddorfa Gymreig, a llwyddodd i gynnal pedair cyngerdd yn 1954-55. Priododd Dorothy C. Mallinson yn 1941 a bu iddynt ferch. Bu farw 10 Rhagfyr 1963 yn Llundain a chladdwyd ei lwch yn eglwys Nicholaston ym mro Gŵyr.
Dyddiad cyhoeddi: 1997
Hawlfraint Erthygl: https://creativecommons.org/licenses/by-sa/4.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.